Tuesday, April 7, 2009

rockffery


Roeddwn i heb glywed ei chân tan yn ddiweddar er mai mor boblogaidd ydy hi. Clywes i 'Mercy', ffefryn Dafydd Hardy yn y rhaglen Beti a'i Phobl am y tro cynta. Fel dwedodd Linda yn ei blog, camp fawr a wnaeth y Gymraes chyflawni. Roedd yn rhyfeddol gweld ei CD (Rockffery)  ar silf Wal-Mart heddiw. Wnes i ofyn i un o'r gweithwyr fodelu drosta i. Cymwynasgar oedd o!

4 comments:

neil wyn said...

Welaist ti'r fideo 'youtube' o Duffy yn siarad efo newyddiadurwr draw yn Seland Newydd, roedd o'n digwydd dod o Chwilog yn wreiddiol, a hithau o Nefyn, y dau lle o fewn tafliad carreg o'u gilydd! Mae dechrau'r sgwrs yn y Gymraeg.

Dyma'r dolen:

http://www.youtube.com/watch?v=lImq27OpQVU

Emma Reese said...

Diolch am y ddolen, Neil. Difyr dros ben! Mae'n wych gweld y Ddraig Goch hefyd.

Linda said...

Ddaru ti brynu'r CD ? Mae'n dda iawn...
Newydd edrych ar y linc youtube . Mae Duffy mor naturiol yn tydi !

Emma Reese said...

Naddo, sori!

Rodd yn wych clywed nhw'n troi o'r Gymraeg i'r Saesneg mor rwydd.