Friday, September 11, 2009

llyn celyn (8/8/09)



Aethon ni i Lyn Celyn. Mae o'n fawr ac yn ddistaw.

Gerllaw, neidiodd criw o bobl ifainc i mewn i hanner dwsin o rafftiau un ar ôl y llall i fwynhau rafftio dwr gwyn ar Afon Tryweryn.

Ar ein ffordd yn ôl, stopion ni yn nhy merch Olwen. Roedd yna gwpl o Nottingham sy'n dysgu Cymraeg. Pwy oedd y gwr ond Gareth y mae Jonathan o Sir Dderby yn ei nabod! "Byd bach," wnaethoch chi ddweud?


2 comments:

neil wyn said...

Rhyfedd o le yw Llyn Celyn, tydi cronfeydd dŵr byth yr un fath a llynoedd naturiol nacydyn?

Emma Reese said...

Hoffwn i fod wedi gweld y llyn mwy tasa gen i amser. Ella baswn i'n mynd arno fo mewn cwch y tro nesa.