Tuesday, July 13, 2010

tonnau tryweryn

Newydd orffen y llyfr hwn. Page-turner ydy o'n bendant fel dwedodd Neil; roedd yn gyffroes dilyn hanes y prif gymeriadau. Sioc fawr oedd beth ddigwyddod i un ohonyn nhw. (Rhaid i mi beidio datgelu gormod er mwyn y darpar-ddarllenwyr.) Doedd y dafodiaith ddim yn rhy anodd heblaw am rai deheuol fel 'wedd' am 'roedd.' Dechreuais i ddefnyddio'r geiriaduron hanner ffordd a chael fy syfrdanu gan y pentwr o eiriau newydd neu anghyfarwydd gasglais i.

Ar y cyfan fodd bynnag, rhaid cyfaddef mod i'n methu gafael yn sylwedd y llyfr. Dim ar y llyfr mae'r bai, mae'n amlwg. Pwy ydy'r dyn ifanc yn y prolog?

2 comments:

neil wyn said...

Dwi'n falch wnest ti fwynhau'r llyfr. Does gen i ddim fy nghopi ger llaw ar hyn o bryd, ond dwi'n trio cofio am y dyn ifanc 'na yn y prolog. Hogyn o dras Asiaidd os cofiaf yn iawn yn syllu dros y Llyn ar ól treulio amser yn Canolfan Dwr Gwyn Tryweryn. Dweud y gwir, erbyn i mi gyraedd diwedd y llyfr ro'n i wedi anghofio am y prolog, ond rhaid i mi ddod o hyd i'r llyfr er mwyn trio wneud synnwyr ohono.. os mae 'na synnwyr i gael!

Emma Reese said...

Dw i wedi dod yn ôl at y prolog droeon wrth ddarllen y gweddill ond methu'n gwybod pwy ydy o.