Mae'n oeraidd y bore 'ma! Anhygoel! Cawson ni fwy o law Cymreig neithiwr gyda mellten a tharanau hyd yn oed. Mae'r awyrgylch wedi newid dros nos.
Mae penwythnos Labor Day arnon ni. Fel arfer dw i'n prysur baratoi dathliadau penblwyddi tri o'r plant ar yr adeg hon. Maen nhw'n cael eu penblwyddi ar y 6ed, y 7fed a'r 8fed. (Dim arna i mae'r bai!) Eleni, dan ni'n mynd i'w dathlu un heno, un nos Lun a'r llall benwythnos nesa.
Oherwydd y prysurdeb, dw i erioed wedi cymryd sylw ar Wyl Genedlaethol Cherokee o'r blaen. Ond dyma hi os oes gan rywun ddiddordeb ynddi hi. Mae hi'n denu rhyw 90,000 o bobl Cherokee ar draws UDA i'r dref fach hon.
4 comments:
Helo Junko !Mae hi'n benwythnos Labour Day yma hefyd , ac yn ddiwrnod braf iawn heddiw. Mae gennyt benwythnos brysur o dy flaen .
Pob hwyl i ti a dy deulu !
Diolch yn fawr. Dan ni newydd ddathlu un penblwydd. Rŵan, rhaid i mi gwblhau twtio'r tŷ! Penwythnos da i ti a dy deulu hefyd.
Sori nad ydw i wedi ysgrifennu sylwadau neu ddarllen dy flog yn ddiweddar. Amser anodd adref. Rhaid i mi ddal i fyny yn fuan. Gobeithio fod ti'n iawn.
Diolch i ti Corndolly. Dw i'n iawn. Gobeithio bod popeth yn iawn efo ti a dy deulu hefyd.
Post a Comment