Wednesday, September 1, 2010

glaw cymreig

Mae hi'n bwrw glaw heddiw, nid dim ond am hanner awr ond trwy'r dydd! Mae'r olygfa mor brin fel ydw i'n sefyll wrth y ffenestr a'i syllu. Roedd pawb a phopeth yn dioddef oherwydd bod yn ofnadwy o sych am wythnosau. Mae tymor alergedd yr hydref wedi dechrau'n gynt hyd yn oed.

Clywais i si byddai criw o Gymru'n dod i Oklahoma heddiw. Hwyrach bod nhw'n dod รข'r glaw Cymreig i'r tir sychedig! Mae'r glaswellt brown yn ei sugno'n ddiolchgar.

No comments: