Monday, December 27, 2010

brithwe dewi sant


Am y tro cyntaf gwisgais i'r sgarff brithwe Dewi Sant a ges i'n anrheg. Perchennog y siop lyfrau Cymraeg ym Mhorthaethwy a rodd hi i mi yn yr haf. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor ysgafn a chyfforddus yw gwlân (gwlân Cymreig wrth gwrs.) Doedd e ddim yn goslyd o gwbl er fy mod i wedi ei wisgo am fy ngwddf am hanner dydd ddoe. A chadwodd hi fi'n gynnes yn braf.

2 comments:

neil wyn said...

prynais sgarff brithwe gwlan cymreig i fy mam fell anrheg nadolig! tartan 'williams' oedd y patrwm (ei henw hi cyn briodi), a phrynais dei tartan o batrwm y jonsiaid i fy nhad. ges i nhw trwy'rganolfan tartan cymreig yng nghaerdydd

Emma Reese said...

Dw i'n siŵr bod nhw wrth eu boddau efo'r anrhegion.