Friday, February 25, 2011

chwarae teg

Er gwaetha'r hanes, does gen i ddim yn erbyn y teulu brenhinol heddiw fel unigolion. Gwelais i gip ar ymweliad y Tywysog Williams a'i ddyweddi yn Ynys Môn. Rhaid canmol bod nhw wedi paratoi at yr ymweliad gan ddysgu Hen Wlad ymlaen llaw er bod Kate'n edrych dipyn yn ansicr ei geiriau! (O leiaf doedd hi ddim yn edrych ar nodyn.) Chwarae teg iddyn nhw.

2 comments:

Linda said...

Cytuno'n llwyr ! Newydd wylio'r linc. Chwarae teg iddynt am wneud yr ymdrech .
Mae'n ddechrau da, yn ogstal a dangos pa mor bwysig ydi'r Iaith Gymraeg :)

Emma Reese said...

Gobeithio byddan nhw'n dal ati.