Monday, June 27, 2011

cymru 2011 - moel eilio


Heddiw dw i, Iola a Lori'n cerdded i ben Moel Eilio (ac yn ôl,) llwybr poblogaidd lleol. Mae o'n edrych fel pwdin Nadolig yn ymyl yr Eliffant. Mae'r llwybr yn gymharol hawdd ac mae fel pe bawn i'n cerdded ar garpedi. Dangosodd yr Wyddfa ei phen o'r cymylau. Mae'r trenau bach yn mynd i fyny ac i lawr. Dacw Drefor a Chaergybi. Medra i weld Llanberis a Marteg hyd yn oed! Dacw Lyn Gadair, Llyn y Dywarchen a Llyn Cwellyn ar yr ochr arall. Mae'r golygfeydd panoramig yn anhygoel.

2 comments:

neil wyn said...

Dwi'n teimlo awch anelu at y mynyddoedd wrth weld y lluniau hyfryd yma. Dwi ddim yn credu mod i erioed wedi dringo Moel Eilio, er dwi'n gwybod am lle ti'n son. Pan o'n i'n ifanc roedden ni'n 'casglu' mynyddoedd Cymru, ond dim ond y rhai dros 3000'. Erbyn hyn dwi'n jysd falch cael y cyfle bod yn y mynyddoedd, sdim ots pa mor uchel!

Emma Reese said...

Feiddia i ddim anelu at yr Wyddfa ond mae Moel Eilio'n ddigon hawdd. (Mae 'na lai o dwristiaid hefyd!) Ces i gymaint o hwyl wrth gerdded i'r copa.