Wednesday, December 31, 2014
diwedd y flwyddyn
Mae blwyddyn arall wedi mynd! Mwy nag weithiau roedd yn anodd dod o hyd i bynciau ar gyfer y blog gan fy mod i'n byw bywyd braidd yn ddistaw, ond dw i'n fodlon fy mod i wedi parhau i bostio bron bob dydd eleni eto. Mae fy niddordebau a phwyslais wedi newid dros flynyddoedd ers i mi ddechrau'r blog saith mlynedd yn ôl. Mae o'n dal, fodd bynnag, i fod yn rhan bwysig yn fy mywyd er mwyn i mi gadw cysylltiad â'r Gymraeg. Gobeithio i ddal ati eto yn y flwyddyn newydd.
Tuesday, December 30, 2014
diwedd y gwyliau
Des i adref yn ddiogel efo'r teulu ddoe. Aeth popeth yn iawn. Mae'r tŷ yn dal i sefyll. Dechreuais olchi mynydd o ddillad. Es i Walmart. Mae pethau cyffredin yn ymddangos yn bleserus. Dan ni i gyd yn cael ein cyfareddu gan Keurig. Ces i baned o de English breakfast a choffi Italian roast yn y cwpan a brynwyd i mi gan y teulu yn Grand Canyon.
Sunday, December 28, 2014
y tŷ llawn
Cyrhaeddodd y teulu'n ddiogel neithiwr wedi gyrru 22 awr dros dair talaith. Mae tŷ fy merch yn llawn dop yn braf. Dan ni angen ond fy ail ferch sydd yn Honduras i fod yn nheulu cyflawn. Aeth y plant i gyd i siopa; aeth fy ngŵr â'r ci am dro. Dw i'n gwarchod y tŷ wrth sgrifennu'r post hwn. Fe a' i am dro ar ôl i'r gŵr ddod yn ôl. Mae'n heulog; mae'r eira yn prysur doddi.
Saturday, December 27, 2014
diwrnod distaw
Ar ôl dyddiau o weithgareddau amrywiol ac anarferol, roedd yn braf wneud dim byd yn arbennig am newid ddoe. Tra oedd fy merch a'i gŵr allan o'r tŷ, es i â'u ci am dro, sgrifennu llythyr (go iawn) hir at fy mam wrth gadw llygaid ar y moch cwta mewn cawell dros dro yn yr ardd, gwneud pwdin efo hen grystiau bara a ffeindiais yn yr oergell. Daeth fy merch adref a dweud na fyddai ei gŵr angen swper; penderfynon ni weld Emma (fersiwn 1996) wrth fwyta'n swper ni. Dan ni'n cytuno'n llwyr mai Mark Strong ydy Mr. Knightley gorau. Heno bydd y gweddill o'r teulu'n dod. Mae'n bwrw eira heddiw.
Friday, December 26, 2014
yn ôl i norman
Wedi treulio'r Nadolig efo'r teulu estynedig yn Las Vegas, des yn ôl i dŷ fy merch yn Norman neithiwr. (Cychwynnodd y gweddill o fy nheulu'r bore 'ma mewn car a dôn nhw yma yfory.) Roedd yn braf, yn enwedig i weld gwen prin ar wyneb mam fy ngŵr sydd yn methu siarad oherwydd y strôc. Cawson ni amser bywiog wrth agor ein hanrhegion fore Nadolig. Mae Keurig gan y brawd ac roedd dyma'r tro cyntaf i mi ei ddefnyddio mewn rhyfeddod. Ces i a'r gŵr y peiriant anhygoel hwnnw ganddo fo'n hollol annisgwyl.
Thursday, December 25, 2014
Wednesday, December 24, 2014
gormod o ddewis
Fel arfer mae'n anodd ffeindio pwnciau ar gyfer y blog ond rŵan mae'n anodd dewis un oherwydd dw i wedi gwneud lawer o bethau ers cyrraedd Las Vegas. Treulio amser efo'r teulu estynedig ydy'r peth pwysicaf wrth gwrs. Aethon i Westy Red Rock i gael brecwast bwffe y bore 'ma. Mae mynd o gwmpas y ddinas yr unig yn brofiad hollol wahanol. Beth bynnag dw i a'r teulu'n ei wneud yn y tŷ, dan ni'n cael cwmpeini'n gyson, sef eu pedwar ci bach sydd eisiau neidio ar eich glin pryd bynnag dach chi'n eistedd.
Tuesday, December 23, 2014
i las vegas
Roedd yn amser i mi hedfan i Las Vegas i ymuno â'r teulu heddiw. Hedfanodd yr awyren uwchben Grand Canyon lle'r oedd y teulu wedi bod ddoe a chyrraedd y maes awyr mewn tair awr. Gwelais frawd y gŵr a'i wraig am y tro cyntaf ers 27 mlynedd; mae mam y gŵr wedi cryfhau'n sylweddol. I swper aethon ni i dŷ bwyta teppanyaki. Roedd y cogydd yn anhygoel o fedrus. Gwelais sioe goginio anghredadwy. Uchafbwynt y swper oedd pan daflodd y cogydd ddarn o ferdys yng ngheg fy merch!
Monday, December 22, 2014
cylchdaith
Ces i gyfle i weld Canolfan Ymchwilio Heddlu Norman heddiw. Capten Gibson, pennaeth y ganolfan a chadlywydd SWAT a oedd yn fy nhywys i a fy merch. Dyn ifanc hynod o glên a hawddgar ydy o. Aeth â ni o gwmpas wrth fy nghyflwyno â'r staff clên yno. Y peth a oedd yn fy nharo oedd yr ystafell holi ar gyfer plant a merched wedi'u haflonyddu; cafodd hi ei dodrefnu fel ystafell fyw glyd fel bydden nhw'n teimlo'n llai ofnus. Dw i'n llawn edmygedd ac yn diolchgar tuag at yr heddlu sydd yn ymroddedig i amddiffyn y bobl er gwaethaf yr ymosodiadau maen nhw'n gorfod eu dioddef.
Sunday, December 21, 2014
grand canyon
Tra fy mod i'n mwynhau paned o goffi a croissant efo fy merch a'i gŵr yn ein hoff siop coffi, sef Michelangelo y bore 'ma, roedd y gŵr a'r tri phlentyn yn cerdded ar Bright Angel Trail yn Grand Canyon efo'u cegau ar agor. Dwedodd fod yna eira a rhew yma ac acw. Arhoson nhw mewn gwesty yno neithiwr a byddan nhw'n archwilio'r ceunant enfawr drwy'r dydd. Dw i newydd dderbyn y llun yma ganddo fo.
Saturday, December 20, 2014
i oklahoma city
Es i Oklahoma City efo fy merch prynhawn 'ma. Wedi cinio bach mewn tŷ bwyta Fietnamaidd, aethon ni i weld murlun fy merch. Mae'n enfawr. Dw i'n llawn edmygedd ei bod hi wedi paentio llun cymaint â hynny. Mae'n hyfryd - y lliwiau, y cynllun a phopeth. Dw i'n hynod o falch fy mod i wedi medru ei weld. Yna prynon ni fwydydd Asiaidd mewn siop arbennig, yfed te efo boba a dod adref. Roedd yn ddiwrnod hollol wahanol i fy nyddiau arferol.
Friday, December 19, 2014
ymweliad â'r heddlu
Fe adawodd y teulu'r bore 'ma. Maen nhw newydd groesi'r ffin rhwng Texas a New Mexico. Byddan nhw'n aros yn Albuquerque heno ac yn cyrraedd Grand Canyon yfory. Yn y cyfamser es i siopa am fwyd efo fy merch hynaf. Mae Norman yn llawer mwy na fy nhref i ac mae yna gynifer o siopau. Yna daeth hi â fi i Orsaf Heddlu i ddangos y lle i mi a fy nghyflwyno i rai heddweision mae hi'n eu nabod. Maen nhw i gyd yn glên iawn ac mae gan un cyn heddwas gasgliad o hetiau'r heddlu o wledydd eraill.
Thursday, December 18, 2014
gwyliau
Dw i a'r teulu'n mynd ar wyliau ar wahân bob tro, ond dan ni newydd gychwyn ar ein gwyliau efo'n gilydd. Heddiw dan ni'n aros efo fy merch hynaf ac yfory bydd y gŵr a'n tri phlentyn yn gyrru dros daleithiau i gyrraedd Grand Canyon. Las Vegas ydy eu cylchfan lle mae brawd y gŵr yn byw efo ei wraig a'i fam. Well gen i beidio teithio mewn car cyhyd ac felly bydda i'n hedfan yr wythnos nesaf i ymuno â nhw. Bydd y mab hynaf yn hedfan hefyd. Dyma fydd y tro cyntaf i'r teulu i gyd (bron) i ymgasglu. Tra bydd y teulu'n archwilio Grand Canyon, bydda i'n treulio dyddiau efo fy merch hynaf a'i gŵr. Dw i'n edrych ymlaen.
Wednesday, December 17, 2014
anrheg drwy amazon japan
Dw i'n gyrru anrheg Nadolig at fy mam yn Japan drwy'r post ers blynyddoedd. Mae hi'n hoff iawn o gnau ac felly bydda i'n eu prynu yn Walmart, eu pacio a mynd â nhw i'r swyddfa bost fel arfer. Mae'r tâl post yn eithaf drud fel bydd o'n costio mwy na'r cnau. Eleni, fodd bynnag, mi wnes i lawer gwell, hynny ydy, archebais bwys o gnau braf drwy Amazon.japan drosti hi. Costiodd popeth rhyw 17 doler (sydd yn llawer llai na'r tâl post rhyngwladol ei hun) gan gynnwys y tâl post. Wrth gwrs bod y gyfradd gyfnewid ffafriol ddiweddar yn helpu.
Tuesday, December 16, 2014
swrpreis!
Wrth chwilio am fideo dysgu Ffrangeg ar You Tube, des o hyd i hwn a dechrau'i weld. Roeddwn i'n meddwl mai hogyn Ffrengig a oedd yn siarad (dim ond ei law chwith oedd ar y sgrin) nes iddo ddweud y gair Eidaleg nodweddiadol o Brescia! Alberto a oedd yn siarad yn rhugl! Dwy flynedd yn ôl fe'i gwnaeth hyd yn oed.
Monday, December 15, 2014
y preseb credadwy
Mae yna gynifer o luniau a cherfluniau o'r Preseb drwy'r byd ond roeddwn i erioed wedi gweld un credadwy. Mae pob llun a cherflun yn dangos Mair yn eistedd wrth breseb yn lân a phrydferth gan edrych ar fabi Iesu'n gariadus, ond mae unrhyw ferch sydd wedi cael babi'n gwybod yn dda pa mor flinedig bydd hi'n teimlo ar ôl enedigaeth. Ac felly roeddwn i'n hynod o falch i weld y preseb hollol gredadwy hwn. Does dim gwybodaeth amdano fo'n anffodus.
Sunday, December 14, 2014
emma
Wedi gorffen Balchder a Rhagfarn gan Jane Austen, dw i'n mwynhau ail ddarllen (neu wrando ar awdio'n ddiweddar) Emma. Rhaid cyfaddef mai yn Saesneg dw i'n darllen wedi'r cwbl. Mae fersiwn Eidaleg dipyn yn rhy anodd er fy mod i'n troi ati hi sydd yn fy helpu deall rhannau aneglur o bryd i'w gilydd. Mae nifer o bethau'n ymddangos yn newydd gan gynnwys "lluniau o St. Mark's Plaza in Venice" mae Emma a'i thad yn edrych arnyn nhw yn nhŷ Mr. Knightly.
Saturday, December 13, 2014
dyn ffyddlon
Bu farw tad fy ngŵr ddoe. Roedd yn 93 oed. Roedd o newydd symud ynghyd ei wraig o Hawaii i Las Vegas er mwyn byw efo'i ail fab. Roedd y gŵr yn medru ei weld am y tro olaf (ar y ddaear) y penwythnos diwethaf. Dyn ffyddlon, amyneddgar, glên, hael oedd o. Roedd o'n gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel Vietnam yn ddewr. Mae o'n gorffwys yn y nefoedd wrth ymyl Iesu Grist bellach. Hwyl am y tro, Dad.
Friday, December 12, 2014
dirwnod kanji
Diwrnod Kanji (logogram Japaneaidd) ydy hi heddiw yn Japan. Ar ddiwrnod hwn dewisir kanji sydd yn atgoffa digwyddiad y flwyddyn drwy bleidleisiau cyhoeddus. Dewiswyd eleni zei sydd yn golygu treth. Does ryfedd; cynyddwyd y dreth werthiant o 5% i 8% ym mis Mai eleni ar gyfer y pensiwn. Mae gan lywodraeth Japan gynllun i'w chodi mwy hyd at 10% mewn tair blynedd. Mae prif fynach yn Deml Kiyomizu, Kyoto yn ysgrifennu'r kanji buddugol bob blwyddyn.
Thursday, December 11, 2014
arddangosfa gelf
Es i efo'r plant i arddangosfa gelf yr ysgol neithiwr. Roedd seremoni fach agoriadol, a chafodd nifer o blant gan gynnwys fy nau blentyn wobrau braf gan noddwr hael. Brook a enillodd y wobr orau. Hi ydy'r orau bob tro; does ryfedd oherwydd mai artistiaid hyfryd ydy ei rhieni. (Ei thad oedd athro celf fy merch hynaf yn y brifysgol.) Fe wnaeth bawb yn dda iawn; roedd yn noson bleserus.
Llun: Audrey Hepburn gan fy merch
Llun: Audrey Hepburn gan fy merch
Wednesday, December 10, 2014
munud bach
Tra dach chi'n aros am y ficrodon am funud neu ddau, beth fyddwch chi'n ei wneud? Mi fydda i'n ymestyn fy mreichiau neu wneud ymarfer y llygaid a ballu er mwyn peidio gwastraffu amser. Dw i newydd dystio fy merch yn gwneud push-ups o flaen y ficrodon.
Tuesday, December 9, 2014
hanner pwys
Gweithiodd fy nghynllun yn Walmart. Y ddynes Tsieineaidd oedd tu ôl cownter y deli'r bore 'ma. Yn lle gofyn am bwys o gig moch, gofynnais am hanner pwys, ac yna tafellodd hi lawer mwy na hanner pwys ond llai na phwys - y maint roeddwn i eisiau.
Monday, December 8, 2014
gwylanod!
Cafodd dynes ei chipio ei brechdan oddi ar ei llaw pan gamodd hi allan o siop yn Piazza San Marco! Gwylan oedd y dihiryn. Cafodd hi fraw'n ofnadwy oherwydd bod ganddi ofn adar (heb sôn am y sioc.) Pan oeddwn i'n eistedd wrth fwrdd yno yn sipian Bellini fis Mai, ces i fy momio gan wylan hefyd (dim ond diferion o ddŵr yn ffodus.) Mae'r adar hynny'n feiddgar!
Sunday, December 7, 2014
lucky
Pan gamais allan o'r tŷ i fynd am dro, clywais fewian bach y gath drws nesaf. Mae fy mhlant yn edrych amdani hi o bryd i'w gilydd pan ei meistres i ffwrdd ond dw i ond ei gweld hi weithiau. Roedd hi'n gyfeillgar iawn wrtha' i serch hynny ac yn fy rhwbio ar y fferau. Dechreuodd hi fy nilyn wrth i mi gychwyn cerdded ac roedd rhaid dweud wrthi fynd adref. Lucky ydy ei henw hi.
Saturday, December 6, 2014
ffrainc bach
Gelwir yn Ffrainc Bach oherwydd yr awyrgylch a phresenoldeb ysgol Ffrangeg yn ar ardal. Mae yna nifer o dai bwyta Ffrengig heb sôn am rhai Eidalaidd hefyd. Kagurazaka dw i'n sôn amdano fo. Ardal ddistaw yng nghanol Tokyo ydy hi. A dweud y gwir, dw i erioed wedi bod yno. Diolch i bost a lluniau hyfryd Patrick, mae gwibdaith i Kagurazaka ar fy amserlen bellach. Mae'r strydoedd culion yno yn fy atgoffa i o'r rhai yn Venice. Gwahaniaeth mawr ydy bod popeth yn anhygoel o lân yn Kagurazaka.
Friday, December 5, 2014
pecyn o abertawe
Cafodd fy merch becyn wybodaeth gan Brifysgol Abertawe! Mae'r campws yn edrych yn dwt a llawer agosach at y môr na'r disgwyl. Bydd hi a'i ffrind yn cychwyn fis nesaf. Cyrhaeddan nhw dri diwrnod cyn i'r tymor ddechrau. Prynodd hi got law'n barod. Rhaid i ni ail ddechrau gwersi Cymraeg ar ôl iddi sefyll yr arholiad olaf.
Thursday, December 4, 2014
ymarfer rhifau
Mae braidd yn hawdd cofio sut i ddweud, "faint ydy hwn?" yn Ffrangeg, ond clywed a deall yr ateb yn fater hollol wahanol. Des o hyd i wefan ddelfrydol i ymarfer rhifau Ffrangeg. Ar ôl clywed rhif yn Ffrangeg, dw i'n ceisio dweud yr un rif yn Eidaleg (yn hytrach na Saesneg) fel medra i ymarfer Eidaleg ar yr un pryd. Mae yna 100 o rifau a dw i'n ymarfer 25 bob dydd.
Tuesday, December 2, 2014
taith gerdded hyfryd
Postiodd BluOscar yn ei flog am y cyfarfod efo un o'i ddarllenwyr, sef Stephanie yn Fenis. Efallai mai hi ydy'r darllenwr mwyaf brwdfrydedd gan ei bod hi'n postio sylw cadarnhaol bob tro. Rhaid bod yn hyfryd iddi gael cerdded o gwmpas efo un sydd yn nabod y ddinas fel cledr ei law. Dw i'n sylwi bod hi'n sefyll yn Campo San Polo lle oeddwn i'n arfer mynd i gael picnic ar fainc. (Roedd fy llety'n agos iawn.)
Monday, December 1, 2014
tatws melys japaneaidd
Cawson ni datws melys Japaneaidd gan ffrindiau sydd gan fferm. Mae o'n hollol wahanol i rai Americanaidd. Mae ganddo groen piws coch ac mae'n felyn tu mewn. Mae o'n llawer melysach union fel cnau castan. Does angen siwgr na menyn. Dw i'n hoff iawn ohono fo ond doeddwn i ddim yn disgwyl ei fwyta yn America.
Subscribe to:
Posts (Atom)