Saturday, October 31, 2015
japan - priodas
Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn dal yn Japan tra fy mod i wedi dod yn ôl i Oklahoma. Aethon nhw i briodas ffrind a oedd wedi graddio yn y brifysgol yma. Yn Kanazawa, tref hardd ar ochr arall mynyddoedd Japan cynhaliwyd y briodas, mewn cysegrfa Shinto. Mae nifer o gwplau yn priodi yn steil Shinto yn Japan, ond prin ydy seremoni sydd yn cael ei chynnal mewn cysegrfa go iawn.
Friday, October 30, 2015
llif byw
Thursday, October 29, 2015
japan - asakusa
Wedi treulio amser braf efo fy merch, es i Asakusa, un o'r llefydd roeddwn i am weld yn Tokyo'r tro hwn. Er bod hi'n nosi erbyn i mi gyrraedd, roedd yna nifer o ymwelwyr. Roedd yr awyrgylch dipyn yn wahanol i ystod y dydd.
Wednesday, October 28, 2015
japan - park shakujii
Ymwelais â fy ail ferch sydd yn byw yn Tokyo fel athrawes Saesneg ers mis Mawrth. Roedd yn rhyfedd ei gweld hi yn Japan am y tro cyntaf ers i mi a'r teulu symud i America. Mae hi'n byw mewn ardal ddistaw ond ddim yn bell o ganol y ddinas. Wedi cael pecyn cinio sydyn yn ei fflat clyd, es i efo hi i Barc Shakujii sydd yn lle poblogaidd i'r trigolion. Wrth i ni gerdded yn y parc hyfryd hwnnw, daethon ni ar draws dyn sydd wrthi'n paentio golygfa hardd ar gynfas. Dw i newydd gael gwybod mai artist lleol enwog ydy o.
Tuesday, October 27, 2015
japan - y nodweddion
Bob tro dw i'n mynd yn ôl i Japan, dw i'n cael fy nharo gan nifer o bethau - glendid, absenoldeb sbwriel ar y strydoedd, trefnusrwydd, trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, bwydydd hyfryd, cwrteisi'r Japaneaidd a mwy. Roedd yn anhygoel gweld merch at y til mewn archfarchnad trin pob peth yn y fasged pe bai e'n drysor iddi. Ces i sioc newydd felly pan es i siopa ddoe; agorodd y ddynes at y til byth ei cheg ond datgan faint ydy'r swm; y fi a ddiolchodd iddi hi.
Monday, October 26, 2015
japan - siopa
Un o'r pethau pleserus i'w wneud yn Japan ydy cerdded yn hawdd i siopau hyfryd. Es i archfarchnad gyfagos bob dydd i brynu ychydig yn hytrach na llond troli o fwydydd ac ati dwywaith yr wythnos fel bydda i'n ei wneud fel arfer. Es i unwaith efo fy mam ynghyd â fy merch a'i gŵr sydd yn ymweld â Japan yr un pryd.
Sunday, October 25, 2015
adra
Dw i newydd ddod yn ôl o Japan wedi treulio wythnos efo fy mam. Roedd yn wych bwyta ei bwyd blasus, cerdded i bobman, mynd ar wibdaith sydyn ar y trên, popeth yn hawdd a diogel. Ac eto, dw i'n hapus dod adref. Does unman yn debyg i adra, meddai Gwyneth Glyn.
Tuesday, October 13, 2015
mynd i japan
Dw i'n mynd i Japan i weld sut mae fy mam. Fe adawa' i ddydd Iau a dod yn ôl ar y 24ain. Dyma'r tro cyntaf i mi ymweld â Japan yn yr hydref; yn y gwanwyn es i bob tro - yr amser blodau ceirios. Bydd fy merch hynaf a'i gŵr yn mynd hefyd, wythnos wedyn i fynychu priodas ffrind. Dan ni'n mynd i'n cyfarfod yn fflat fy mam. Dw i'n edrych ymlaen at gael teithio'n hawdd ar y trên ac ar fws o gwmpas Tokyo.
Monday, October 12, 2015
stori'r hen gapten
Daniel Evans, actor gwych a ddarllenodd y stori hon gan T.Llew am deithiwr a gollodd ei ffordd yn cael llety mewn hen ficerdy ar noswyl Nadolig. Wrth wrando, roeddwn i'n sylwi fy mod i wedi gwrando arni hi o'r blaen ond heb gofio beth oedd hanes y ficer. Stori drist yn hytrach na arswydus ydy hi. Mae gan Gristnogion obaith ar ôl marwolaeth yn ôl addewid Duw. Doedd dim rhaid i'r ficer golli ei galon. Un lletygar ydy o beth bynnag.
Sunday, October 11, 2015
gorau t.llew jones
Awr cyn canmlwyddiant T. Llew, gorffennais ail-ddarllen y llyfr hwn, y gorau ganddo fo yn fy marn i, sef "Corn, Pistol a Chwip." Roeddwn i'n anghofio'r stori erbyn hyn, ac felly roedd yn gyffrous dros ben dilyn siwrnai hir ac anhygoel o galed y Mêl o Lundain i Gaergybi yn y gaeaf yn yr adeg pan adeiladwyd Pont Menai. Roedd y nofel yn ddiddorol o'r dudalen gyntaf i'r diwedd. Hoffwn i ei gweld hi'n cael ei hail-argraffu. (y llun: Nant Ffrancon a hen lôn bost)
Saturday, October 10, 2015
cwrs eidaleg newydd alberto
Roedd Alberto'n gweithio'n galed i greu ei ail gwrs Eidaleg ers blwyddyn. Wedi ei weld o ar gael y bore 'ma, prynais y cwrs ar yr unwaith. Roeddwn i'n bwriadu ei brynu ers iddo sôn amdano fo er mwyn diolch iddo am ei ymdrech dygn i helpu dysgwyr yn rhad ac am ddim ers blynyddoedd, a hefyd gwella fy Eidaleg wrth gwrs. Mae gan y cwrs gymaint o awdios, fideos a PDF amrywiol ar seiliedig ar ei ddull dysgu effeithiol y bydd yn cael anfon atoch chi un wers ar y tro.
Friday, October 9, 2015
murlun newydd
Cafodd fy merch gomisiwn arall am furlun, ar gyfer Heddlu Norman y tro hwn. Mae hi newydd ddechrau gan drosglwyddo ei dyluniad at wal adeilad yr heddlu. Roedd rhaid gwneud y gwaith hwnnw yn y nos er mwyn defnyddio taflunydd, a chafodd hi a'i gŵr sydd yn ei helpu eu hymosod gan filoedd o fosgitos!
Thursday, October 8, 2015
tatŵ dros dro
Mae busnes tatŵ dros dro fy merch yn ffynnu'n ddiweddar. Mae hi'n derbyn archebion o dramor yn gyson gan gynnwys Tanzania a Rwsia. Yn ogystal â dyluniadau unigryw ar ei gwefan, mae hi'n creu rhai ar gais. Rhain ydy'r diweddaraf yn y siop - llythrennau Tsieineaidd sydd yn boblogaidd bob amser.
Wednesday, October 7, 2015
woodchuck
Gwelais woodchuck yn ein hiard ni. Dyma'r ail dro, ond y tro hwn, roedd o'n cerdded tuag at y tŷ ac felly roeddwn i'n medru gweld ei wyneb yn glir. Gwelodd o fi'n ceisio tynnu llun ohono fo o'r ffenestr a throi'n ôl, dringo'r ffens a mynd i'r iard dros nesaf. Mae woodchuck yn edrych yn annwyl iawn er bod nhw'n achosi problemau weithiau gan balu tir ger tai.
Tuesday, October 6, 2015
dŵr
Torrodd peipen dŵr dan ddaear yn ein hiard blaen. Daeth staff ar unwaith ond gadael heb wneud dim. "Rhaid cysylltu â'r cwmni teleffon gyntaf i ffeindio lle mae'r llinell ffôn cyn cael cloddio," medden nhw. Ddigwyddodd dim dros y penwythnos tra bod y dŵr yn llifo o ddifrif ac yn gwneud rhaeadr ar gynffon y stryd. Daeth griw mawr efo peiriant cloddio brynhawn ddoe. Roedden nhw wrthi am oriau a stopion nhw'r dŵr o'r diwedd. Collwyd tunnell o ddŵr yn ystod y pedwar diwrnod. O leiaf mae'r tywydd wedi bod yn sych a chafodd yr anifeiliaid gwyllt yn y gymdogaeth ddigon o dŵr. (Mae'r rhyngrwyd yn gweithio heddiw.)
Monday, October 5, 2015
yn y llyfrgell
Does dim rhyngrwyd gartref prynhawn 'ma. Mae hyn wedi digwydd o bryd i'w gilydd, ac fel arfer bydd y broblem yn cael ei ddatrus ar ei ben ei hun. Heddiw fodd bynnag, mae'r sefyllfa'n wael. Penderfynais ddod i'r llyfrgell leol er mwyn sgrifennu fy nau flog. Daeth myfyrwraig at fy ochr chwith e dechrau defnyddio ei Mac Book yn pesychu o dro i dro. Symudais at ddesg ar y llawr plant heb dynnu ei sylw. Roeddwn i ar fy mhen fy hun am ddeg munud cyn i blentyn bach ddod ata i a dechrau siarad. Symudais at ddesg arall eto. Roedd yn ddistaw ar y dechrau ac eithrio sŵn peiriant ac ambell i sgwrs sydyn rhwng y llyfrgellydd a'r trigolion. Rŵan mae mwy a mwy o bobl yn dod yn siarad yn uchel. Sgrifenna' i fy mlog Eidaleg ac yna casglu fy mab yn yr ysgol. Gobeithio y bydd y rhyngrwyd yn gweithio erbyn inni gyrraedd adref.
Sunday, October 4, 2015
canmoliaeth
Ces i fy nghanmol am fy nawnsio efo fy mab gan nifer o bobl. Y peth gorau a welodd hi erioed mewn parti priodas, meddai un ohonyn nhw. Wrth gwrs nad ydw i wedi dawnsio llinell efo fy mab er mwyn diddanu'r gwesteion; dw i ddim yn medru dawnsio'r walts. Dyna pam. Roedd yn hwyl iawn beth bynnag ac efallai bod y lleill wedi mwynhau'n gweld ni'n dawnsio'n llawen.
Saturday, October 3, 2015
y llyfr hir disgwyliedig
Mae "Corn, Pistol a Chwip" newydd gyrraedd o Flaenau Ffestiniog. Ces i dipyn o siom oherwydd bod y llyfr yn eithaf llwyd. Wrth gwrs fy mod i'n gwybod ei fod o allan o argraff ers meitin ond doeddwn i ddim yn disgwyl llyfr sydd yn drewi. Rhaid ei adael yn yr haul am ddyddiau cyn i mi gael ei ddarllen.
Friday, October 2, 2015
sgarff werdd
Mae'r tywydd wedi troi'n oeraidd yn sydyn; mae fy merch yn hapus cael gwisgo o'r diwedd y sgarff a brynodd yn Nulyn yn yr haf. Mae hi'n colli'r wlad werdd yn fawr iawn a dechrau dysgu Gwyddeleg ar ei phen ei hun hyd yn oed.
Thursday, October 1, 2015
breuddwydio (yn y nos)
Dw i'n ceisio cael breuddwydion yn y nos yn ddiweddar i fwynhau'r amser cysgu. Darllenais erthyglau ar y we a chael gwybod y dylech chi beidio â defnyddio cyfrifiaduron yn union cyn mynd i'r gwely er mwyn cysgu'n braf a hefyd cael breuddwydion. A dyna beth dw i'n ei wneud - diffodd fy Mac Book a darllen llyfr am hanner awr. Dw i'n cysgu'n well ac yn meddwl fy mod i'n breuddwydio'n amlach nag o'r blaen. Y cam nesaf ydy eu cofio nhw.
Subscribe to:
Posts (Atom)