Friday, November 30, 2012
betys coch
Doeddwn i erioed wedi hoffi betys coch oherwydd y blas priddlyd, ond ces i synnu ar yr ochr orau pan goginiodd fy merch hynaf y llysiau 'ma efo garlleg ac olew olewydd yn y popty. Roedden nhw'n dda iawn ac wrth gwrs byddan nhw'n gwneud lles i chi. Dyma goginio rhai ynghyd y coesynnau i swper neithiwr. Roedd hyd yn oed y plant yn eu hoffi nhw. Rhybudd: peidiwch â synnu pan ewch chi i'r tŷ bach y diwrnod wedyn. Mae popeth yn iawn. Dim ond lliw'r betys coch ydy o!
Thursday, November 29, 2012
ar y coffi mae'r bai (dw i'n meddwl)
Wednesday, November 28, 2012
wedi'r gwyliau
Tuesday, November 27, 2012
potlwc catholig
Monday, November 26, 2012
cymun catholig
Bore ddoe yn lle mynd i'r eglwys gartref gyfarwydd yn Norman, aethon ni i'r eglwys Gatholig 'Libaneaidd' yn yr ardal. Mae'r offeiriad ifanc clên yn ffrind i fy merch a'i gŵr. Roedd dyna'r tro cyntaf i fi a'r teulu i fynd i eglwys Gatholig heb sôn am un Libaneaidd. Cafodd y Mas ei gynnal yn Saesneg a'u hiaith. Roeddwn i'n teimlo'n ddwfn bod ni'n credu'r un Arglwydd Iesu er bod ni'n ei addoli mewn ieithoedd ac arddulliau gwahanol. Yn ymysg y canu yn alawon Libaneaidd, clywais i gân addoli gyfoes gyfarwydd a gwenu. Uchafbwynt y Mas oedd y Cymun. Es at yr offeiriad efo pawb i dderbyn waffer efo diferyn o win arno fo yn fy ngheg. Roeddwn i'n teimlo'n rhyfedd ond hapus.
Sunday, November 25, 2012
p'nawn dydd sadwrn
Llwyddodd y gŵr brynu tocynnau i'r gêm pêl-droed Americanaidd am ond $30 dros dri ohonyn nhw achos bod y gêm wedi dechrau'n barod. $99 yr un oedd y pris cyn y gêm. Roedd y stadiwm yn llawn dop, dros 80,000 o bobl. Oklahoma University (y brifysgol leol) a enillodd. Er ei fod o'n arfer chware'r peth flynyddoedd yn ôl, dwedodd y gŵr fod y gêm braidd yn ddiflas. Roedd o'n sylweddoli bod llawer well ganddo bêl-droed!
Saturday, November 24, 2012
dal i fwynhau'r gwyliau
Aeth popeth yn iawn a chawson ni ginio blasus. Mi adawais i'r twrci yn y popty'n hirach rhag ofn. Gan fod o mewn bag popty, roedd yn llawn sudd. (Gollyngdod mawr i mi.) Heddiw dan ni'n cael tynnu'n lluniau ar gyfer ein llythyr Nadolig. Fy merch hynaf ydy'r ffotograffydd. Yna, bydd y merched yn mynd i Oklahoma City i siopa tra'r dynion yn gwneud y pethau gwrywaidd fel cerdded o gwmpas Oklahoma University (mae yna gêm bêl-droed Americanaidd p'nawn 'ma) neu fynd i ganolfan saethu gynnau. Dan ni i gyd i fod i gyfarfod yn Oklahoma City ddiwedd y diwrnod i fwyta pizza Eidalaidd.
Subscribe to:
Posts (Atom)



