Saturday, October 6, 2007

bbc catchphrase

Mi ges i ymarfer siarad da efo Ann Jones, tiwtor Catchphrase.

Mae bron pob dysgwr yn gwybod am y wefan hon ac dw i wedi 'dysgu' rhai gwersi o'r blaen. Ond sut yn union dach chi i fod i'w dysgu? Mi fedrwch chi wrando ar wahanol sgyrsiau neu ar y newyddion yn ceisio deall, neu ddysgu gramadegau. Ond beth am ymarfer siarad?

Nes i rywbeth newydd ddoe. Mi es i i wers 60, Original Catchphrase (baswn i, taswn i, ayyb) ac ateb cwestiynau Ann Jones cyn i Nigel Walker ddweud ei atebion. Mi nes i bwiso'r fysell aros tra o'n i'n ateb. Mi ges i wers bersonol effeithiol. Dw i'n mynd i ddysgu gwersi eraill yn yr un modd.

2 comments:

Anonymous said...

Dwi'n dysgu Cymraeg yn NYC, a dwi'n gwneud pethau o'r fath hefyd - rhaid iti fod yn greadigol! (Er bod 'na weithiau pan dwi'n gofyn i fy hun, pam trafferthu poeni am dy acen pan oes dim ond ~50 o bobl yn NYC fasai'n dallt yr hyn ti'n ei ddweud ta beth? Ond dyna rhan o'r dirgelwch o ddewis i ddysgu Cymraeg allan o'r wlad, am wn...)

Emma Reese said...

Diolch am dy sylw, ansicr. Mae'n dda gen i weld bod rhywun arall yn dysgu Cymraeg tu allan i Gymru.