Tuesday, October 16, 2007

beth i swper?

Cyri a reis oedd ein swper ni heno. Un o'r prydau o fwyd Japaneaidd poblogidd ydy hwn, ac mae fy nheulu'n hoff iawn ohono fo hefyd. Mae o tipyn yn wahanol i rai Indiaidd.

Mae o fel stiw tew (neu botes trwchus?) efo gwahanol lysiau (moron, tatws, nionod, seleri, bresych) ac unrhyw gig. Well gynnon ni gyw iâr. Mae na gymysgedd o sbeisys arbennig fedrwch chi ei brynu. Dw i'n arfer ychwanegu banana, siocled, saws coch a "peanut butter" iddo fo. Dach chi'n ei fwyta efo reis.

3 comments:

Corndolly said...

Siocled! fy hoff fwyd ! Dw i'n hoff iawn o gyrri hefyd, ond dw i ddim wedi eu bywta nhw efo'i gilydd. Gyda llaw, dw i'n credu y fydd 'na ddim streic yr wythnos 'ma. Gobeithio, maen nhw wedi sortio pethau allan.

Rhys Wynne said...

Swnio'n gyfuniad diddordol! Dwi'n cymeryd byddai'n addas heb gig hefyd. Wyt ti'n fodlon postio cyfarwyddiadau/rhestr cynhwysion llawn - dwi'n teimlo'n fentrus!

Emma Reese said...

Corndolly, dim ond darn bach o siocled sy angen.
Wel, gobeithio bydd Cwrs Pellach yn cyrraedd cyn bo hir.

Rhys, mi nes i ddefnyddio wyau wedi eu berwi unwaith, ond do'n nhw ddim cystal â chig. Wrth gwrs, basai hyn yn dibynnu.