Sunday, October 28, 2007

dyn o gymru

Mi aeth fy ngwr i wledd yn y gwesty ar ddiwedd y gynhadledd neithiwr. Roedd 'na 150 o aelodau newydd a naethon nhw gyflwyno eu hun yn dweud eu henwau a lle maen nhw'n dwad.

O Gymru roedd un ohonyn nhw! Mi geisioedd fy ngwr ei gyfarfod, ond roedd y neuadd mor enfawr ac roedd cymaint o bobl yno fel y oedd yn anobeithiol. Mae gan fy ngwr enw'r dyn o Gymru. Felly gobeithio ceith o hyd iddo wedyn. Mae'r hanes ma'n gyffrous iawn i mi. Dw i bron byth yn cael cysylltuadau ag unrhyw Cymry fan ma.

3 comments:

neil wyn said...

Mae'n anhygoel sut mae Radio Cymru yn gallu dod o hyd i Gymry dros y byd i gyd er mwyn cynnig sylw ar ddigwyddiadau sy'n cael eu hadolygu ar raglenni newyddion ac ati. Wedi dweud hynny, er mod i'n byw llai na pumtheg milltir oddi wrth ffin Cymru, prin iawn ydwi'n cael cyfle am sgwrs Cymraeg, er siwr o fod mae 'na sawl Cymro neu Gymraes yn 'cuddio' yn yr ardal hon o Loegr. Mae'n rhaid i mi wneud y taith (digon byr diolch byth) i'r gogledd er mwyn ymarfer fy Nghymraeg, er mai rhai bobl ochr yma'r ffin yn meddwl mod i'n wallgof am wneud yr ymdrech! Dwi'n son weithiau am ymdrechion dysgwyr o dramor mod i'n gwybod amdanynt (fel tithau!) wrth fy ffrindiau yng Nghymru, ac mae'n creu argraff mawr arnynt a dweud y gwir :)

Corndolly said...

Hi Emma, a Neil. Dw i'n cytuno efo Neil. Fel 'ti'n wybod, dw i'n byw ar y ffin hefyd, ond yng Nghogledd-Cymru. Does 'na ddim llawer o bobl yn fy mhentref sy'n siarad Cymraeg, ond maen nhw'n allan yn yr ardal rhwyle. Emma - mae gan llawer ohonon ni ysbrydoliaeth ar ol i ti ymweld a ni, ym Mis Mehefin. Neil, os wyt ti'n byw yn agos at Wrecsam a Llangollen, mae 'na sawl sesiwn Cymraeg sy'n rhedeg ar hyn o bryd. Edrych ymlaen at siarad a thi heno, Emma ar Skype.

Emma Reese said...

Diolch i chi, Neil a Corndolly am eich sylwadau. Chi sy'n fy ysbrydoli wrth sgwennu ata i!