Wednesday, October 24, 2007

meddwl yn gymraeg

Mae'n rhaid i mi feddwl yn Gymraeg. Dw i'n gwybod mai hyn ydy ffordd dda i wella fy Nghymraeg, ac wedi gwneud hyn o dro i dro ond dim yn gyson. Dw i'n ddiog.

Ro'n i wedi gwella fy Saesneg drwy'r ffordd ma amser maith yn ôl yn Japan. Mae pob disgybl yn Japan i fod i ddysgu Saesneg am chwe blynedd o leia yn yr ysgolion. Ond dydy'r rhan fwya o'r bobl ddim yn medru Saesneg achos bod rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar gyfieithu'r Saesneg ysgrifenedig i'r Japaneg mewn dosbarthiadau heb ymarfer siarad.

Mi es i i'r coleg yn Tokyo am ddwy flynedd i astudio Saesneg ar ôl gorffen ysgol uwch. Mi nes i astudio gwahanol bynciau drwy gyfrwng y Saesneg hefyd. Coleg da oedd o er fod o'n fach. Ro'n nhw'n annog i ni feddwl yn Saesneg. Ac roedd rhaid i ni dalu dirwy os siaradwn ni Japaneg yn y coleg. Oherwydd hynny nes i lwyddo.

Dw i'n siwr bod y ffordd ma'n dda i wella unrhyw iaith dach chi'n ei dysgu. Yr her fwya ydy bod yn ffyddlon. Rhaid i mi wneud ymdrech os dw i eisiau bod yn rhugl.

3 comments:

neil wyn said...

S'mae Emma,

newydd dod o hyd i dy flog ydwi. Ga i jysd dweud da iawn ti, ti'n sgwennu Cymraeg ardderchog. Fel dysgwr fy hun, dwi wedi cael fy ysbrydoli sawl gwaith gan ymdrechion dysgwyr eraill, mae pobl wir yn gwerthfawrogi dy waith di. Mi wna i gario ymlaen i ddilyn dy flog di, yn teimlo gwynt newydd yn fy hwyliau! pob lwc

Emma Reese said...

Diolch i ti, Neil am dy eiriau clên. Mae'n galonogol iawn cael sylwadau. Mae fy mhostiau braidd yn syml achos mod i ddim yn byw bywyd anturus fel y blogwyr eraill. Ond dw i'n ceisio blogio bob dydd beth bynnag ac yn edrych ymlaen.

Corndolly said...

Hi Emma, Dw i'n cytuno. Rhaid i ti ddechrau meddwl yn Gymraeg hefyd. Mae'n rhan pwysig o ddysgu, dw i'n meddwl.