Wednesday, October 17, 2007

rasait cyri japaneaidd

Dyma rasait i Rhys Wynne ac i unrhywun arall sy gan ddiddordeb.

Cynhwysion i bedwar:

1/2 - 1 lb o gig o'ch dewis
2 foronen ganolig
1 taten canolig
1 nionyn bach
1 coes o seleri
rhai bresych (os dach chi eisiau)

- wedi eu dorri'n ddarnnau

1 blwch bach o gymysgedd cyri Japaneaidd (angenrheidiol)
1 darn bach o siocled
1 banana bach wedi ei stwnsio
2 lwy de o saws coch
1 llwy de o 'peanut butter'

dwˆr

reis plaen wedi ei goginio

Dull:

Goginiwch y cig. Berwch(?) y llysiau ar y stôf nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y cig. Coginiwch y cyfan am hanner awr mwy. Ychwanegwch y cymysgedd o gyri a'r sbeisys. Coginiwch nes bod y cymysgedd wedi ei doddi.

Rhowch y cyri ar y reis. A bwytwch!

A dweud y gwir, does dim 'cynhwysion cywir.' Mi fedrwch chi ddefnyddio eich dychmygion.

Dyma'r post hira sgwennes i erioed!

3 comments:

Rhys Wynne said...

Reit, does gyda fi ddim esgus rwan. Diolch

Linda said...

Da ni'n bobl cyri yma hefyd, felly awydd trio hwn. Fel arfer, cyri ddigon syml fyddai'n wneud efo nionod , tomato tin , siwgr brown , chutney, pâst cyri, ayb. Diddorol gweld fod 'na siocled a peanut butter yn dy risaet di.

Emma Reese said...

Pob llwyddiant i chi!