Sunday, January 27, 2008

gwers dei


Fydd gan fy mab hyna gyfweliad i ymgeisio am ysgoloriaeth yfory. Mi aeth fy ngwr â fo i brifysgol yn Arkansas p'nawn ma. Mi nân nhw aros yno dros nos. Mi gaethon nhw eu gwahodd i wledd dros yr holl ymgeiswyr heno. Bydd rhaid iddyn nhw wisgo siwtiau a theis. Prin bod fy mab yn gwisgo tei. Roedd rhaid i'r gwr roi gwers dei cyn mynd.

3 comments:

Corndolly said...

Mae o'n edrych yn smart iawn. Bob lwc iddo fo.

Linda said...

Lwc dda i dy fab yn Arkansas, a siwrna saff i'r dynion !

Emma Reese said...

Diolch i chi!