Sunday, January 13, 2008

pride and prejudice

Mae gan un o'r plant annwyd ac mae hi (11 oed) wedi bod yn ei gwely. Isio i mi ddarllen yn uchel llyfr iddi oedd hi. Gas gen i ddarllen llyfrau plant diflas ac mae 'na gymaint yn y byd. Mi es i at silff lyfrau i ddewis un beth bynnag.

Mi weles i Pride and Prejudice. A, dyna ni! Fasai fy merch ddim yn meindio'r nofel, felly mi ddechreues i ei darllen yn uchel. Mae hi'n wych.

Dw i heb ddarllen nofelau Jane Austen ers blynyddoedd. Rôn i'n arfer gwirioni arnyn nhw a ffilmiau'r nofelau. Aelod o Gymdeithas JA yn America ac un ym Mhrydain oeddwn i. Ac mi nes i ffrog a boned ym modd Regentaidd (a'u gwisgo!) Felly mae'r teulu i gyd yn gyfarwydd a chymeriadau'r nofelau hefyd. Dw i'n dal i feddwl bod nhw rhai o lyfrau mwya difyr ddarllenes i erioed.

Ar ôl darllen rhai penodau P&P, mi hoffwn i wylio'r fideo (gan BBC) eto.

3 comments:

Corndolly said...

Un o fy hoff lyfr gan Jane Austen ydy 'Pride and Prejudice' hefyd ac mae gen i fideo o'BBC sy'n rhedeg dros 6 awr !. Be' wyt ti'n feddwl am y ffilm eitha newydd? Mae'n well gen i'r fideo.

Emma Reese said...

Mae gen i'r un peth! Mi nes ddarllen adolygiad y ffilmiau newydd ond dydyn nhw ddim yn swnio'n rhy galonogol. Mi hoffwn i fenthica DVDs nes ymlaean ella ond dw i ddim yn meddwl prynu nhw.

Corndolly said...

Dw i wedi gweld y ffilm newydd, mae hi'n iawn, ond rhy fer. Roedd rhaid iddyn nhw adael llawer bethau allan y ffilm. Ac dw i'n hoff iawn o Colin Firth !!! Mae o'n olygus iawn.