Wednesday, February 27, 2008

helynt hurt tywysogion cymru

Mae'n wych cael gweld rhaglenni S4C ar y we, ond fedra i ddim peidio teimlo'n isel gan mod i ddim yn dallt be mae'r bobl yn dweud. Ar ôl cael cip ar PC Leslie Wynne soniodd Dogfael, a phenderynu bod gen i ddim gobaith, mi nes i wylio Helynt Hurt. Dw i'n teimlo tipyn yn well achos mod i wedi ddallt y rhan fwya ohoni hi. Ella mai dyna beth ddylwn i wneud, hynny ydy gweld rhaglenni plant.

Mae'n ddifyr iawn bod y plant sy'n chwarae milwyr yn gwisgo crysau pel-droed Lloegr a Chymru!

1 comment:

Corndolly said...

Syniad da, dylet ti wylio rhaglenni plant! mae'n defnyddiol iawn. Mae gen i ffrind sy wedi dysgu llawer trwy wylio Sali Mali yn y gorffennol.