Wednesday, February 13, 2008

rhwng y wlad a'r wladfa

"O Drelew i Dre-fach" gan Marged Lloyd Jones - Dw i newydd orffen y llyfr hwn efo teimladau cryf, cymysgeidd o syfrdandodd, dristwch, edmygedd, llawenydd a mwy. Hanes Nel fach y Bwcs (Ellen Davies Jones) ydy hwn. Mi gaeth hi ei geni yng Nghymru a'i dwyn i fyny yn Patagonia. Yna mi aeth hi yn ôl i Gymru'n oedolyn.

Dôn i ddim yn gwybod bron dim am y Gymry allfudodd i Batagonia. Mi ges i gipolwg o'u bywydau caled drwy'r llyfr hwn. Mae gan yr awdures (merch yng-cyfraith Ellen) ddawn arbennig o ddisgrifio popeth mor fyw. Rôn i'n teimlo fel taswn i'n gweld brofiadau Ellen o blaen fy llagaid. Heb os un o'r llyfrau gorau ddallenes i erioed ydy o.

Mi fydd S4C yn rhyddhau ffilm ar ôl y llyfr eleni. Dw i'n siwr bydd hi'n gwaith da oherwydd mai wyres Ellen (Eiry Palfrey) wnaeth y ffilm, ac mai merch Eiry (Lisa Palfrey) chwaraeodd rhan Ellen. (O, mi faswn i'n licio'i gwylio taswn i'n cael!)

2 comments:

Linda said...

Yn falch dy fod wedi mwynhau'r llyfr. Wedi gweld y rhaglen ar y we yn ddiweddar ...'Poncho Mamgu'. 'Roedd yn dda iawn!

Emma Reese said...

Diolch i ti Linda. Dw i wedi darllen am y poncho yn y llyfr hefyd.