Friday, February 29, 2008

prynu tocyn awyren

Mi ges i sioc enfawr. Mi brynes i heddiw docyn awyren i fynd i Iowa. $600 oedd o! Dim ond $300 oedd o mis yn ôl! Ac oedd bron i mi fethu cael sedd o gwbl! Mae rhywun yn enill cymaint o bres ar draul pobl gyffredin.

2 comments:

asuka said...

rwy innau 'di cael profiadau tebyg. ti'n disgwyl i docynnau fod yn rhad iawn bob tro dyddiau 'ma, yng nghyfnod 'ma'r "budget carriers" - ond fyddan nhw byth mor rhad â'r gobaith rywsut, na fyddan? - o leia', ddim i'r lleoedd ti'n treio mynd iddyn nhw!

Emma Reese said...

Cynllwyn ydw hyn, ac sgen i ddim dewis ond talu.