Mi gaethon ni wers Japanese arall p'nawn ma. Anodd iawn ydy Japaneg fel ail iaith. Dw i'n ei siarad heb feddwl, wrth gwrs, ond mae'n galed esbonio be' ydy be' i'r bobl eraill er mod i'n gwneud fy ngorau glas.
Beth bynnag, roedd 'na beth difyr ar ddechrau'r wers. Rôn i ar ateb Ron yn Gymraeg! Mi orffenes i siarad â Linda ar Skype chwarter awr cyn y wers. Roedd rhaid bod fy ymennydd dal i fodd Cymraeg. Yna mi naeth o droi'n ôl i fodd Saesneg yn fuan iawn (Dan ni'n siarad Saesneg y rhan fwya o'r amser.)
3 comments:
Dyna ti Emma ...ti'n dechrau meddwl yn Gymraeg :)
Diolch am y sgwrs.
Fel mae Linda yn dweud, wyt ti'n dechrau meddwl yn Gymaeg. Mae gen i broblem sy'n debyg. Weithiau dw i'n dechrau brawddegau yn Gymraeg wrth i mi siarad efo Alan ! Mae o'n edrych arnaf i fel rhywun twp.
Diolch i chi. Fy ngobaith ydy breuddwydio yn Gymraeg!
Post a Comment