Monday, February 25, 2008

dirgelwch yr ogof

Mi ges i weld rhan 1 a 2 o'r ffilm ar S4C. Mae'r cyfrifiadur yn gwrthod lawrlwytho mwy. Roedd yn anodd dallt be oedden nhw'n dweud fel arfer. (Dw i isio is-deitl Cymraeg!) Un ymadrodd ôn i'n dallt yn dda oedd, "Pob un ohonoch chi?" Roedd hi braidd yn rhyfedd gweld boneddigion yn nillad crand efo gwallt gosod yn siarad Cymraeg.

Mae 'na rai actorion dw i wedi gweld nhw o'r blaen. Dw i'n meddwl mod i wedi gweld Ray Gravell hefyd. Ydw i'n iawn neu beidio?

3 comments:

Corndolly said...

Dw i'n gallu gweld is-deitlau ar lein, (weithiau) ond roedd rhaid i mi eu tro nhw ymlaen yn y 'Player' Dwi'n defnyddio Window Media Player, ond os wyt ti'n defnyddio rhyw player efo MAC, dw i'n siwr dy fod di'n gallu eu tro nhw ymlaen rhywle.

Emma Reese said...

Na alla i, siwr. Rheol ydy hynny. Dydy is-deitlau ddim ar gael i'r bobl tu allan i Gymru gwaetha'r modd.

Emma Reese said...

Tu allan i'r DU.