Thursday, February 7, 2008

cylchwyl o fath

Blwyddyn yn union yn ôl ym mis Chwefror dechreues i ddysgu ffurfiau gogleddol. Rôn i wedi dysgu'r rhai deheuol cyn hynny. Rôn i'n teilmo fel tasai rhaid i mi ddechrau o ddechrau. Mi gymerodd misoedd cyn i mi fedru dweud heb swildod, "Mae gen i amser rwan" yn hytrach na, "Mae amser da fi nawr."

Dw i ddim yn cofio pryd ddechreuodd fy hoffter tuag at Gymraeg y Gogledd. Efallai pan brynes i CDau Te yn y Grug a gwrando ar Gymraeg swynol Bethan Dwyfor, a chlywed Winni Finni Hadog yn swnio fel tasai hi'n canu tra oedd hi'n flin ac yn gas.

Mae 'na acen benodol yn y Gogledd dw i'n gwirioni arni hi, acen Bethan Dwyfor a Karen Owen. Dw i'n ei chlywed o dro i dro mewn cyfweliadau ar Radio Cymru ac dw i wrth fy modd.