Monday, March 3, 2008

hinamatsuri /gwyl ferched (cliciwch yma.)


Gwyl Ferched ydy hi yn Japan heddiw. Mae gan bob merch yn Japan dolis traddodiadol ar gyfer y wyl hon. Mae'r dolis yn cael eu arddangos am wythnos neu dwy bob blwyddyn. Ar ôl y traddodiad rhaid rhoi nhw eu cadw ddiwedd y wyl neu fydd y merch yn hen ferch am oes.

Dyma fy nolis ges i'n fabi gan ffrind fy mam. Yr un oedran ydyn nhw â fi. Mae gan y rhan fwya o ferched yn Japan ddolis crantach fel arfer ond dw i'n hoffi'r dolis del a syml ma. Mi nai roi nhw i un o'm merched un diwrnod.

1 comment:

asuka said...

diolch am bostio hyn. mae'r dolis wir yn hardd a joiais i'r gân yn fawr hefyd.