Mi es i a'r gwr i barti penblwydd ffrind heddiw. Mae o'n 80 oed. Roedd o a'i wraig yn byw yn Japan mwy na 40 mlynedd fel cenhadwyr. Mae nhw'n medru Japaneg felly. Maen nhw'n dal i weithio dros fyfyrwyr Japaneaidd yn y brifysgol. Dyn annwyl ydy o. Mi fedrith o ddweud cellweiriau doniol iawn yn Japaneg.
Roedd 'na dros 60 o bobl mewn ffreutur cartre henoed i ddathlu. Mi ddaeth ei berthnasau o Efrog Newydd ac o Califfornia. (Dan ni'n byw yn Oklahoma, cofiwch.) Mi nes i anghofio mynd â chamera yn anffodus.
8 comments:
y syniad o allu adrodd jôc sy wir yn ddoniol mewn iaith ti 'di ei dysgu - rwy'n llawn edmygedd! gwych bod modd i gymaint o'i ffrindiau fod yna.
Dw i'n cytuno â ti asuka. Mi faswn i'n licio bod yn rhugl yn Gymraeg cymaint ag y mae o'n yn Japaneg.
rwyt ti'n bell ar y ffordd, Emma!
oes gennych chi hoff jôc yn y Gymraeg?
Beth am yr enwog "Be' 'ti'n galw plismon yn Llanberis?"
wyddoch chi?
Dwn i'm. Be ydy hwnna?
A dweud y gwir, dw i ddim yn gwybod llawer o jôcs yn unrhyw iaith.
"Copa'r Wyddfa!"
(gedit?!)
:D
neu "Copar Wyddfa" falle... wn i'm
Shw mae, Benjiman ydw i. Beth mae'n cenhadwyr?
S'mae Benjiman a chroeso. Falch o wybod dysgwr arall.
Cenhadwyr ydy "missionaries." cenhadwr/cenhadwyr
Post a Comment