Roedd 'na dros 500 o bobl oedd yn mwynhau'r sioe gampus neithiwr. Un o'r dawnsiau arbennig oedd "Getap," sef dawns "tap" efo sandalau pren traddodiadol (geta) rhoies i'r ddolen iddi ddoe. Mae'n anodd cerdded heb sôn am ddawnsio ynddyn nhw. Mi fasa Asuka wedi gwirioni ar y caneuon "animes." Gaethon ni ddim tynnu lluniau yn ystod y sioe, felly does 'na ddim ond ychydig yma.
Lluniau: tocynnau lliwgar (cardiau chwarae traddodiadol ydyn nhw,) diwedd y sioe
4 comments:
rown i'n disgwyl am y blog hwn! joiais i ddarllen dy ddisgrifiad di, a gweld y dawns egnïol 'fyd! a diolch am yr eglurhad, gyda llaw - mi rown i'n gofyn i fy hunan beth yn union o'n nhw'n wneud.
Diolch am y sylw, Asuka. Dw i a'r plant yn hoffi Totoro. Mi naeth y myfyrywr ganu un o ganeuon y ffilm neithiwr.
rwy'n *dwlu* ar "totoro" 'fyd! llun o'r olygfa wych wrth y salfe bws sy genny' ar 'nghyfrifiadur fel cefndir. :)
TO-to-ro, to-TO-ro!
Diolch am y lluniau a'r hanes emma. Yn falch o glywed fod cymaint wedi dod draw, ac wedi mwynhau.
Post a Comment