Mi dorrodd y hen bopty tra ô'n i'n paratoi swper. Rôn i a'r gwˆr benderfynu bod pryd i ni brynu un newydd. Mi brynodd o un rhata yn Lowe's bore ddoe a daeth dau ddyn â fo yn y p'nawn. Mae o'n gweithio'n dda.
Dw i'n teimlo'n ddrwg mod i wedi rhoi braw mawr iddyn nhw pan dynnes i'r llun ma heb ddweud dim. Roedden nhw'n meddwl bod rhywbeth wedi mynd o'i le hefo'r trydan pan fflachiodd y camera.
3 comments:
waw - ffwrn newydd sbon! neis iawn.
hei, diolch iti am y sylwadau ar ein blog ni. rwy'n treulio amser ym mangor ar hyn o bryd drwy gynllun cyfnewid rhwng prifysgol harvard a phrifysgol bangor. rwy'n treio gwneud sawl peth yma ond dyma un sy'n gyffrous braidd: rwy'n cael mynd i ddarlithiau cymraeg am lenyddiaeth gymraeg, sy'n *wych* o brofiad!
o't ti ym mangor dros yr haf diwetha' yn gwneud cwrs cymraeg, felly? rown i'n gwneud yr un peth yng nghaerdydd!
O, ti'n lwcus cael aros ym Mangor am 6 mis, a chael mynd i ddarlithiau Cymraeg hefyd!
Mi es i i Aberystwyth ac i Gaerdydd ar ôl yr ysgol haf. Rôn i ar goll yn llwyr yn y brif ddinas.
Hoffwn i weld y sefyllfa ! Dw i'n gallu dychmygu wynebau'r dynion. Rwy'n hoffi dy bopty newydd hefyd.
Post a Comment