Friday, November 14, 2008

cymro yn japan

Am Gymro o Landdewi Brefi sy'n byw yn Osaka, Japan ydy'r gwaith gwrando cynta yn y cwrs Cymraeg trwy'r post  arall ddechreues i'n ddiweddar. Mae Iwan Morgan sy'n gweithio fel athro Ffrangeg a Saesneg yn siarad mewn cyfweliad am ei brofiad  yn Osaka. Cyfweliad go iawn ydy o, dw i'n meddwl ond mae'r cwrs yn saith mlwydd oed. Dw i ddim yn siwr os ydy o'n dal yno felly. Hanes diddorol ond ella fod o ddim yn ddarn hollol briodol i fy nhiwtor weld pa mor dda dw i'n ei ddallt o achos dw i'n medru ateb rhai cwestiynau heb wrando ar y tâp!

5 comments:

asuka said...

oes 'na ffeithiau am osaka yn y cyfweliad a *oedd* yn wir saith mlynedd yn ôl ond sy ddim, wedet ti, yn wir dyddiau 'ma?

Emma Reese said...

Roedd o'n sôn am fwyd, parch mae'r bobl yn ddangos tuag at athrawon a pha mor ddiogel ydy'r cymunedau. Mae'r ddau elfen gynta'n ddigon cywir ond mae trais wedi bod yn cynyddu'n ddiweddar. Er bod nhw'n gymharol diogel, faswn i ddim yn cerdded ar strydoedd ar ben fy hun gyda'r hwyr.

Corndolly said...

Dw i'n cofio gwrando ar yr un stori. O'n i ddim yn siŵr os oedd yn stori'n gwir, ond efallai. Beth am ofyn i Elwyn Hughes o lle daeth y cyfweliad?

Emma Reese said...

Gallai fo ddim bod wedi dweud be ddwedodd o oni bai fod o wedi bod yn athro yn Japan.

Ella fod o ddim yn gyfweliad ar radio ond un ar gyfer y cwrs.

Emma Reese said...

Diolch i ti corndolly am roi'r syniad o ofyn i E Hughes. Mi nes i ofyn i Nia a dweud naeth hi mai cyfweliad ar radio oedd o.