tawel nos
Mae'r gwyliau drosodd a gadawodd y plant hyn p'nawn ma. Roedd yn wych cael eu gweld nhw i gyd am y tro cynta ers misoedd. Ond dw i wedi ymlâdd! Penderfynes i fy mod i'n haeddu bath heno yn hytrach na chawod. Mae gen i bowdr bath o Japan sy'n arogleuo fel cypreswydd. Doedd o ddim cystal ag 'Arima Onsen' (ffynnon boeth yn Japan) ond dw i'n teimlo'n llawer gwell bellach. Mae'r gweddill o'r teulu wedi mynd i'r gwely a distaw iawn mae hi rwan. Rhagfyr yfory.
1 comment:
'set ti 'di bod yn cael dy fath yma yn ohio, ond gadael y ffenest ar agor gallet ti fod 'di cael eira yn nofio i lawr drwyddi ar wyneb y dŵr poeth!
Post a Comment