Thursday, December 11, 2008

bwyta'n iach



Bydda i'n bwyta'n gymharol iach dw i'n meddwl. Ond yn ddiweddar, rôn i'n sylweddoli bod rhaid i mi fod yn fwy ofalus fyth wrth i mi...m... tynnu ymlaen.

Dyma rysait ddes i hyd iddi ar wefan gyfeiriwyd gan Asuka. Paratoes i'r frechdan i ginio ddoe. Roedd yn hynnod o dda heb sôn am fod yn iachus. Dan ni'n bwyta tofu'n ddigon aml ond dyma flas newydd.

Un peth arall dw i wedi bod yn bwyta bob dydd yn ddiweddar ydy gwymon, dim un sych lepir am 'sushi' ond un fel llysiau y môr gelwir 'wakame.' Bwyd digon cyffredin ydy gwymon yn Japan ond prin dw i'n ei fwyta ers i mi symud i America. Cewch chi ddarllen pa mor iachus ydy gwymon ar y we. Fe'i bwytir yn amrwd mewn salad yn aml. mae o'n dda efo seleri, afocado, tofu a sesame wedi'i rostio.

Dw i heb gael Bara Lawr eto. Ydy o'n dda?

4 comments:

asuka said...

gwymon - sôn am ffeind!rhyfedd cyn lleied o ddiwylliannau'r byd yn gwerthfawrogi gwymon fel bwyd. sa' i'n gwybod am yr un ar wahân i japan a chymru! oes rhai eraill, tybed?
mae bara lawr yn neis. cryf ei flas ond neis. gwnes i baratoi tunaid ohono inni pan oed 'nhad-yng-nghyfraith yn aros 'da ni mis diwetha', gan wneud y peth yn iawn â blawd ceirch ac ati, a gwnaeth pawb ei joio rwy'n credu.
mae'r frechdan 'na'n swnio/yn edrych yn dda hefyd. rwyf finnau am dreio ei wneud e!

Emma Reese said...

Hoffwn i drio Bara Lawr ryw ddiwrnod. Maen nhw'n bwyta gwymon yn Tseina a Corea.

~^~ said...

Rhaid imi ddweud nad ydw innau erioed wedi blasu bara lawr er mod i wedi byw yng Ngymru drwy fy oes.
Mi fyddwn i'n hoffi.
Dwi'n bwyta tipyn o wymon fy hunan, wakame a kombu mewn cawl miso ag hefyd nori i wneud sushi.
Dwi hefyd yn ychwanegu darn o kombu pan fyddai'n berwi ffa fel "aduki beans" neu ffacbys gan ei fod yn gwneud y ffa yn haws i'w treulio.

Emma Reese said...

Waw! Ti'n bwyta wakame a kombu mewn cawl miso?!!! Maen nhw'n eitha rhyfedd i lawer o bobl dw i'n siwr. Mi wnes i gawl miso efo tofu, 'green onions' ac wakame i swper heno gyda llaw.