Rôn i'n darllen adolygiad nofel newydd y bore ma ac des i ar draws brawddeg hon:
"Mae yma wewyr, rhwygiadau, tyndra a siomiant serch..."
Allu hi ddim yn sôn am y creadur bach anwylyd direidus sy'n achosi colled trydan yn ein ardal ni.
'throes' ydy'r ystyr. (Dw i heb glywed y gair Saesneg hyd yma hyd yn oed.)
Ac mae 'na eiriau eraill: crefydd, clefyd, cleddyf, celfydd heb sôn am wyrion gwirion!
3 comments:
Oooo! Gwiwer fach druan!
Y camgymeriad gwaethaf o'r fath yma oedd un gan Glyn Davies AC ychydig flynyddoedd yn ôl. Doedd o ddim yn hapus bod Rhodri Morgan yn hwyr i'r Frenhines (late for the Queen) - be ddywedodd o oedd Roedd Rhodri Morgan yn hwr (prostitute) i'r Frenhines - ow am embaras.
hei ti'n iawn? newydd dod ar draws dy flog, ma na cwpl o oklahoma yn ein capel ni ac ma nhw'n legends, nes i weld yr adnod ac felly'n cymryd dy fod ti'n Gristion? fi di dechre blog newydd http://rhosllanerchrugblog.blogspot.com o'n i'n meddwl falle byse ti'n licio gal look arno fe.
derek
Croeso i fy mlog, John. Oes 'na rai o Oklahoma yn dy gapel? Wir? Mi faswn i'n licio cysylltu â nhw! Cristion dw i. Na i alw heibio dy flog.
Post a Comment