Rhywbeth newydd dros flwyddyn newydd, 2
Dechreuais i weithio fel "girl Friday" fy ngwr heddiw, a hithau'n ddydd Gwener hefyd! Bydda i'n gweithio bob bore Gwener o hyn ymlaen. Cha i mo fy nhalu ond bydd yn help mawr iddo. Bydd yn gyfle da i mi wneud rhywbeth gwahanol a gweld ei gydweithiwyr a'r myfyrwyr hefyd.
Dyma fy ngorchwylion y bore ma: newid posteri gwaith ymchwil y myfyrwyr sydd ar y waliau. Helpu cyfieithu erthygl fy ngwr i'r Japaneg.
Gorffenais i bobeth tua hanner dydd a chaethon ni ginio bach yn y ffreutur. Bu'n mwynhau'n arw. Edrycha i ymlaen at y tro nesa.
llun de: Adran Optometreg
6 comments:
Digon o waith, felly! A chlamp o gyfrifiadur pert i weithio arno!
Mae'n edrych yn lle braf, hefyd.
MAC ydyn nhw!
hy!? Mac'iaid yn gwisgo bathodynnau gydag afalau mawr llachar arnynt?
"I'm a Mac and he's a... Oh, you're a Mac too!"
Campus ! yn falch dy fod ti wedi mwynhau dy ddiwrnod cyntaf ! Braf cael gweld ychydig mwy o'r swyddfa hefyd ;)
Na i dynnu lun arall o'r swyddfa ar ôl tacluso tipyn. (Mae hynny ar restr fy nghwaith hefyd.)
Emma Reeseさん、お久しぶりです。
以前、ブログでお話させて頂きましたあいまーるです。
新年、心機一転!またブログを始めました。今度は無理をせず、日本語で大阪のことを書いています。
新しいブログにもお立ち寄り頂ければ幸いです。
Post a Comment