Saturday, January 3, 2009

gêm gyfweliad

Mae'n debyg bod hyn yn swnio'n hurt i'r dysgwyr sy'n cael mynd i ddosbarthiadau. Ond y broblem fwya i'r rhai sy'n dysgu tu allan i Gymru ydy diffyg cyfleoedd i siarad Cymraeg. Os oes 'na unrhywun sy gan syniad da sut i ymarfer Cymraeg llafar bob dydd, dudwch wrtha i.

Baswn i'n alw fo'n Gêm Gyfweliad. Sut i chwarae:
1. Cymwch arnoch chi bod chi'n gyflwynydd radio (yn fy achos i, Nia Thomas, Post Cynta) a sgwennu cwestiynau dach chi isio gofyn i'r gwestai.)
2. Recordiwch y gyfweliad.  Dechreuwch ofyn y cwestiynau. (Cewch chi ddarllen y sgript.)
3. Chi sy'n westai hefyd. Atebwch y cwestiynau heb sgript.
4. Gwrandawch ar y cyfweliad i sylwi ar gamgymeriadau ayyb.

Mi ddylech chi wneud hyn yn slei neu basai'ch teulu'n meddwl bod 'na rywbeth yn bod arnoch chi oni bai bod nhw'n hen gyfarwydd â'ch arferion od!

3 comments:

Linda said...

Beth am sgwrs dydd Llun :) Fe wnai yrru e bost i ti dros y penwythnos.

Emma Reese said...

Wrth gwrs bod Skype yn help enfawr hefyd!

Corndolly said...

Syniad da! Beth am wneud cyfweliad ar Skype rhywbryd? Bod yn onest, Emma, mae'n anodd iawn i gael cyfle siarad yn y Gymraeg yma yng Nghymru !! Dydy ein hardal 'ma ddim yn llawn Cymreictod - fel ti'n gwybod - ac mae'n anodd codi hyder wrth siarad.