Monday, January 5, 2009

rhywbeth newydd dros flwyddyn newydd, 1


Tai Chi ydy'r peth! Mae canolfan ffitrwydd newydd agor yn y dre, ac dw i a fy merch 22 oed wedi ymaelodi. Rhesymol iawn ydy'r ffî, dim ond $30 y mis i deulu i gyd. Mae 'na wersi amrywiol ar gael hefyd.

Es i wers Tai Chi am y tro cynta erioed heno. Roedd y ganolfan dan ei sang. Dôn i ddim yn meddwl bod gan cymaint o bobl yn y dre ma ddiddordeb mewn cadw'n heini. Roedd 'na ryw 20 o bobl yn nosbarth Tai Chi. Mr. a Mrs. Wu o Taiwan ydy'r tiwtoriaid. Mi ges i hwyl ac rôn i'n teimlo'n dda ar ôl y wers. Syndod ydy bod fy nghoes yn flinedig braidd er bod y symudiadau mor araf.

Dw i'n bwriadu mynd i wers arall bore Mercher.

7 comments:

Gwybedyn said...

Pob hwyl gyda'ch tai chi! Gobeithio y byddan nhw mor gyfforddus a'm ty^ i!

(^^)

(sori!)

Emma Reese said...

??? Be wyt ti'n feddwl???

Gwybedyn said...

gair mwys bach twp, 'na i gyd:

"tai chi" fel lluosog "(eich) ty^ chi"

(does gen i mo'r egni am fwy nac un)

Linda said...

Da gweld dy fod ti wedi mwynhau dy hun !

Emma Reese said...

Linda: Do wir. Edrycha i ymlaen at y wers nesa.

szczeb: ^o^

Corndolly said...

Rôn i'n meddwl am wneud Tai Chi - bydd 'na ddosbarth newydd yn ystod y dydd yn y coleg (Dw i'n meddwl) Pa fath o ymarfer corff ydy o? Fydd o'n addas ar gyfer rhywun efo problemau anadlu?

Emma Reese said...

Mae'r symudiadau'n araf iawn. Clywes i bod Tai Chi yn gwneud lles i'r bobl efo asma.