Monday, January 12, 2009

er cof am t.llew

Mae yna gysur clywed a darllen y deyrnged i T.Llew. Dechreuais i ail-ddarllen un o'i storiau er cof amdano, sef darn o 'Trysor y Môr-Ladron.' Mae 'y Môr yn eu Gwaed' gen i, llyfr bach sy'n gasgliad o ddarnau o dri stori gynno fo. Dim ond rhyw drideg tudalen sy na, felly medra i ei gorffen heddiw. Er mod i wedi ei darllen mwy nag unwaith, dw i'n cael fy synnu eto mai mor afaelgar ydy hi.

Dyma fy llyfr cynta gan T.Llew Jones. A dweud y gwir, sgwennais i ato fo ar ôl darllen y llyfr byr yma tair blynedd a hanner yn ôl. Dwedodd o'n swta braidd yn ei lythyr fod o ddim yn hoffi'r syniad o roi darnau o storiau i blant. Roedd o eisiau iddyn nhw ddarllen 'storiau cyflawn gyda dechrau a diwedd.'

Os ca i ddweud, dw i ddim yn meddwl bod y syniad cynddrwg achos mod i wedi gwirioni ar 'Barti Ddu' sy'n un o'r tri stori fel y prynais i'r nofel gyflawn wedi'r cwbl. Ac dw i'n siwr gwna i brynu 'Trynor y Môr-Ladron' ar ôl gorffen y llyfrau ar fin cyrraedd.




10 comments:

Gwybedyn said...

Diolch iti, Emma, am dy flogiau er cof am T. Llew.

Mae'n warthus, yn fy marn i, fod y BBC heb gynnwys gair amdano ar ei gwefan Saesneg (clywyd ganddynt am farwolaeth Eluned Phllips, mae'n wir, ond hynny'n fyw da dim oherwydd ei bod hi'n gyfaill i Dylan Thomas).

Emma Reese said...

O na, rôn i'n meddwl mai "yng nghof" ydy "in memory of"! Mi nes i googlo cyn postio i wneud yn siwr bod "yng nghof" yn cael ei ddefnyddio. Diolch i ti szczeb am fy nghywiro'n gynnil (ac cyn i'r post fynd i flogiadur hefyd!)



Dw i heb ddarllen gwefan Saesneg BBC, ond mae'n ofnadwy anwybyddu un mor bwysig.

Gwybedyn said...

Ydy, mae "yng nghof" i'w weld ar google, ond mae pob enghraifft yn cyfleu "[alive / remaining / etc.] in the memory/ies of...!

Pob enghraifft hynny yw ond un! ;)

Emma Reese said...

;^^;

Gwybedyn said...

glywaist ti'r rhaglen hon ("Beti a'i Phobl" yng nghwmni T. Llew)?

y rhaglen

Emma Reese said...

Do! Mwynheues i'n arw. Roedd Beti yn sôn am yr ail ran ddydd Sul (T. Llew fel bardd, cricedwr a gwyddbwyllwr.) Glywest ti honna? Methes i ffeindio hi.

Nest ti glywed y ddrama gynno fo? (Stori'r hen gapten) Roedd hi'n drist braidd yn hytrach na arswydus.

Gwybedyn said...

Na, wn i ddim am yr ail ran y soniwyd amdani. Y rhan gyntaf yw'r unig un sydd ar gael o hyd, hyd y gwela' i.

Drama ar Radio Cymru oedd honno? Collais hi hefyd, yn anffodus.

Emma Reese said...

Mae hi'n dal ar gael:
http://www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b00hbd3z/Storir_hen_Gapten/

Gwybedyn said...

Diolch iti, Emma - mi geisia' i wrando arni heno 'ma.

Anonymous said...

Look at all the tennis hats..that means NETHERLANDS...NYE ....DOT...and YAN is talking about
YONNOS 113 and so is RICK.
OLIVER NORTH, too.
They now tie CK?
Dylan Thomas which means DIANA - LANCE- THOMAS...
Sweden - is part of the HERSEHO.
THOMAS is a " TRAIN".