Thursday, February 19, 2009

piano wedi'i gyweirio


Mae'n amser i gael cyweirio'n hen biano. Daeth Mr. Brice i wneud y gwaith p'nawn ma. Mae o'n ein gwasanaethu ers blynyddoedd. Er bod o'n ddall, mae o'n mynd o gwmpas y dre a'i chyffiniau efo cymorth ei frawd. Mae o'n gwneud job reit dda bob tro ac yn trwsio yma ac acw'n fedrus hyd yn oed. Mi wela i fo eto flwyddyn nesa.

2 comments:

neil wyn said...

Dwi'n cofio'r tiwnwr pianos yn dod i'n tŷ ni ers talwm pan o'n i'n plentyn. Dyn dall oedd hwnnw hefyd, a deithiodd o dŷ i dŷ ar ben ei hun, ond ar y trenau neu fysiau wrth rheswm. Mae gynnon ni biano yn y tŷ, ond un trydanol mae'n rhaid i mi gyfadde, mae'n swnio'n ddigon da, ac mae'n posib i'w chwarae trwy clustffoniau sy'n fantais yn y tŷ 'ma weithiau, ond tydy hi ddim cweit yr un peth ag un acwstig a dweud y gwir.

Emma Reese said...

Dim fi ond fy merch sy'n chwarae. Dwedodd hi bod y piano'n swnio'n llawer gwell ar ôl iddo gael ei gyweirio.