Friday, March 20, 2009

dawnsio llinell


Dw i'n hoff iawn ohono fo. Roeddwn i'n arfer mynd i sesiwn pan oeddwn i'n byw yn Indiana (yn y sgubor yn Elletsville. Ydy o'n dal yna? Wyt ti'n gwybod Zoe?) Yn anffodus does yna ddim unrhyw sesiwn yma. Dw i ddim yn deall pam. Mae o mor hwyl. Sgwn i ydy o allan o ffasiwn bellach?

Ond dw i benderfynol o wneud o eto. Prynes i DVD ac mae o newydd gyrraedd. "Essential Line Dances, volume 2" - Mae'r cyfarwyddiadau'n glir a hawdd. Ceisia i wneud hwn o dipyn i beth.  

2 comments:

neil wyn said...

Dwi'n meddwl bod pethau fel Salsa wedi cymryd drosodd fan hyn ym Mhrydain fawr, ond dwi'n cofio baglu dros digwyddiad 'dawnsio llinell' enfawr yn Southport un p'nawn sul yn yr haf rhai chwech flynedd yn ôl. Roedd 'na ganoedd (falle filoedd!) o ddawnswyr yn wneud eu pethau ar hyd y stryd fawr. Mae'n debyg rhyw ymgais i dorri record yr oedd hi, dwn i ddim!!

Emma Reese said...

Mae'n wir hwyl dawnsio efo llawer o bobl yn hytrach na dawnsio ar eich ben eich hun yn eich ystafell fyw. : )