Tuesday, March 17, 2009

siarad

Dach chi wedi clywed am y prosiect diweddara gan Brifysgol Bangor? 'Siarad' - 40 awr o sgyrsiau siaradwyr Cymraeg wedi'u trawsgrifio'n llawn a'u recordio! 

Roedd gen i bloblem ar y dechrau ond diolch i Peredur, yr ymchwilydd a wnaeth roi cymorth helaeth imi, mae popeth yn gweithio. Mae hwn yn wych! Bydd o'n help mawr i'r oedolion yn ogystal â'r plant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith.

Cerwch i 'Talkbank' a lawrlwytho'r ffeiliau yma (Siarad.zip) sy'n cynnwys ffeiliau sain. Rhaid defnyddio CLAN i'w hagor nhw. 

2 comments:

Gwybedyn said...

Diolch iti, Emma, am roi gwybod am y rhain. Roeddwn i heb eu gweld nhw o'r blaen.

Wyt ti'n gwybod ymhle mae'n bosibl cael gafael ar y trawsgrifiadau? (ai dyna'r peth "CLAN" rwyt ti'n sôn amdano? wn i ddim beth yw hynny!).

Emma Reese said...

Ia, dyma wybodaeth am CLAN:
http://talkbank.org/CABank/ca-clan.html