Friday, March 6, 2009

siaradwch gymraeg â fi!


Dyma'r crys. Dw i wrth fy modd. Ond a dweud y gwir, mae yna dyllau bach bach arno fo, a chwynes i wrth y gwmni. Ofynodd o i mi dynnu llun ohonyn nhw. Felly y bu. Roeddwn i'n barod i yrru'r crys yn ôl ond chwarae teg i'r cwmni, anfonith o un newydd ac dw i'n cael cadw hwn.

Bydda i'n gwisgo'r crysau yng Nghymru yn yr haf ma. Bydd pawb yn siarad Cymraeg â fi heb os! (...tybed?)

6 comments:

Zoe said...

Dw i'n hoffi'r crys yn fawr iawn! Dw i angen un am fy daith i Gaerdydd yr haf 'ma...

Emma Reese said...

Syniad da!

Linda said...

Gwych ! Mi wna i siarad Cymraeg efo ti :))

Emma Reese said...

Diolch! Gobeithio y gwneith pawb yng Ngymru deimlo'r un fath â ti pan welith y crys ma!

Corndolly said...

Dw i'n aros am fy nghrys T cyrraedd yma. Dw i wedi derbyn e-bost sy'n dweud mae o ar ei ffordd i Gymru ! Gobeithio wna i archebu un arall newydd cyn mynd i'r Eisteddfod eleni.

Emma Reese said...

Ella bydd ein crysau'n boblogaidd yng Nghymru, a cheith fy merch lu o archebion. : )