Sunday, March 15, 2009

huw chiswell

Er bod Elwyn Hughes yn ei ganmol cymaint yn ei lyfr, doeddwn i ddim yn gwybod sut i ynganu ei gyfenw hyd yn oed nes clywed rhaglen Dewi Llwyd heno. A chlywes i ei gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 1984, sef 'y Cwm' hefyd. Mae hwn yn eithriadol! Ac dw i'n hoff iawn o'i arddull hefyd. Prynes i hwn gan iTune ar unwaith. 




2 comments:

neil wyn said...

Clasur o gân yw'r cwm, ond mae 'Rhywbeth o'i le', 'Nos Sul a Baglan Bay' a 'Gadael Abertawe' ymhlith fy fefrynau gan Huw Chiswell hefyd.

Emma Reese said...

Mae o'n dda, on'd ydy? Dw i ddim yn hoffi cantorion sy'n mwmian eu geiriau. (mmm... dw i'n perthyn i'r to a fu ella!)