Thursday, April 30, 2009

cwrs trwy'r post

Dw i'n dal i wneud y cwrs arall trwy'r post. Dw i newydd gael uned 10. (Gyrres i uned 11 at fy nhiwtor yr wythnos diwetha oherwedd post wedi'i golli, ond stori arall ydy honna.) Mae yna gymaint o waith darllen, sgrifennu a gwrando. Maen nhw i gyd yn gwneud imi weithio'n galed.

Y gwaith gwrando ydy'r un mwya anodd. Darnau o gyfweliadau Radio Cymru ydy nhw. Mae'n rhaid i mi wrando ar y tâp droeon ond fedra i ddim deall rhai geiriau hyd yn oed ar ôl darllen y sgriptiau wedyn. 

Dw i i ysgrifennu adolygiad o lyfr Cymraeg y tro ma. Byddwn i eisiau adolygu Rhannu'r Ty ond dim ond llai na hanner ffordd dw i...


2 comments:

neil wyn said...

Pa gwrs yn union wyti'n ei dilyn Emma? mae'n swnio'n diddorol iawn!

Emma Reese said...

Cwrs Meistroli gan Brifysgol Bangor