Friday, May 1, 2009

siom arall


Am siom. Roeddwn i'n hanner disgwyl gweld y Ddraig Goch prynhawn ma. Roedd yna seremoni i groesawu Arlywydd newydd y brifysgol leol. Ac roedd 28 baner o'r gwledydd eraill yn y neuadd yn cynrychioli'r myfyrwyr rhyngwladol yma. Dw i wedi clywed si wythnosau yn ôl bod hogia o Gymru wedi'u gweld yn llyfrgell y brifysgol. Myfyrwyr o Gymru! Heb imi wybod! Ond dim ond baner Prydain a weles i yn y neuadd fawr. Am siom.

5 comments:

neil wyn said...

Mae'r Jac yr Undeb i fod yn cynhyrchiolu'r Deyrnas Unedig yn ei cyfanrwydd, er gwaetha'r diffyg amlwg o unrhyw elfen o faner Cymru ymlith ei phatrymau. Y rheswm dros hynny yw (dwi'n credu!), yn yr adeg a gafodd faner yr Undeb ei dyfeisio, roedd Cymru ar bapur yn rhan o Loegr (diolch i Henry'r wythfed). Roedd Cymru o dan gyfundrefn cyfreithiol Lloegr, rhywbeth nad oedd yn wir am Yr Alban nag Iwerddon. Wrth cwrs tydi hynny ddim yn derbynniol, ac o'herwydd mae sawl Cymro/Cymraes sydd ddim yn fodlon derbyn Jac yr Undeb fel eu baner nhw.

Emma Reese said...

Mae 'na fyfyrwyr o'r Alban yma hefyd. Weles i mo ei baner chwaith.

neil wyn said...

Mae Croes Sant Andrew yn rhan o gynllun Jac yr Undeb (yn ogystal a chroes Sant Siôr a chroes Sant Patrick) felly mae 'na ddadl i ddweud roedd 'na elfen o faner yr Alban yna..! Ond does dim elfen o'r ddraig goch yn y fflag Prydeinig o gwbl gwaetha'r modd!

Gwybedyn said...
This comment has been removed by the author.
Gwybedyn said...

ie, a does dim angen y ddraig goch ar y faner, chwaith. Hen symbol o'r gorffennol ymerodraethol yw baner yr Undeb wedi'r cyfan. Sdim eisiau ceisio impio Cymru i'r cysyniadau hynny. Gwell jyst cofio ystyr y faner fel y mae a chadw'n pellter!

[sori am y golygu!]