Thursday, January 28, 2010

storm rew eto

Dechreuodd hi rewi pnawn 'ma. Mae hi'n addo tywydd mawr, ac mae'r ysgolion a hyd yn oed y brifysgol leol wedi datgan y bydden nhw'n cau yfory. Dw i mor falch fy mod i wedi gorffen gyrru am heddiw. Cawson ni storm rew ddychrynllyd y llynedd. Gobeithio yr eith y storm hon heibio heb achosi cymaint o ddifrod y tro 'ma.

3 comments:

Linda said...

Gobeithio na fydd hi'n storm rhy ofnadwy acw Junko. Cadwa'n gynnes !

Emma Reese said...

Dan ni'n gynnes iawn efo'r llosgwr logiau!

Corndolly said...

Dw i'n cofio gweld y lluniau'r llynedd !. Mae hi'n oer iawn yma unwaith eto. Aethon ni i'r ysbyty mewn storm eira neithiwr. Roedd y llywbrau i gyd yn llithrig ar ôl i ni ddod allan. Well i ti aros yn ddiogel adref, dw i'n cytuno.