gormod o wallau?
Dechreues i gadw dyddiadur Cymraeg ar y cyfrifiadur wythnosau'n ôl. Wrth gwrs fy mod i'n mwynhau sgrifennu'r blog hwn ond fedra i ddim sgrifennu popeth ynddo fo wrth reswm ac mae'n haws teipio na sgrifennu ar bapur. Wedi llenwi hanner dwsin o dudalennau, ces i fy rhybuddio gan Microsoft Word gynnau bach bod yna ormod o gamsillafu a chamgymeriadau gramadegol! Am wyneb! Mi wna i ddal ati wrth gwrs.
3 comments:
Ha ! dwi'n cael yr un un broblem efo Microsoft Works . Tydio ddim yn derbyn rhai geiriau Cymraeg ac yn hyd yn oed newid rhai ohonynt i fod yn eiriau gwahanol!! Hefyd , tydi'r rhaglen ddim yn derbyn 'i' ar ben ei hun , ac yn ei newid i 'I' bob tro.
Lwc dda i ti efo dy ddyddiadur :)
Diolch i ti Linda. Rhaid i mi gywiro "I" bob tro hefyd.
Peth eithaf hawdd a hynod hwylus i'w wneud yw recordio "macro" i newid yr iaith i'r Gymraeg, fel nad yw'r rhaglen yn ceisio cywiro pob dim. Mae modd jest diffodd y geiriadur hefyd, wrth gwrs, ond mae cael macro yn well na gorfod mynd trwy'r dewislenni i gyd bob tro.
I wneud hyn:
1. Tools > macro > record new macro
2. Clicio ar 'Keyboard'
3. Mynd i flwch "Press new shortcut key" a dewis eich 'shortcut key', h.y. yr hyn i'w wasgu yn y dyfodol er mwyn newid yr iaith i'r Gymraeg (e.e. "ctrl + alt + W") - teipio hyn yn y blwch.
4. Gwasgu 'Assign' ac yna 'Close'
5. Newid yr iaith yn y ddogfen i'r Gymraeg (bydd y camau hyn i gyd yn cael eu 'recordio'). (Tools > Language > Set Language > Welsh)
6. Gwasgu 'stop' ar yr icon od yn y gornel chwith. Mae'r 'macro' wedi'i greu.
7. Mynd no^l i gam (1) a gwneud yr un peth ar gyfer Saesneg (dewis, e.e. "ctrl + alt+ Q" ar gyfer y 'shortcut key')
8. Newid iaith yn rhwydd bob tro (drwy wasgu'r 'shortcut').
Post a Comment