Wednesday, January 13, 2010

diwrnod golchi


A dweud y gwir, bydda i'n golchi bob yn ail ddydd o leiaf. Roeddwn i'n arfer taflu bron i bob dilledyn i'r peiriant sychu fel y rhan fwyaf o'r Americaniaid ond penderfynais i roi cymaint o'r dillad ag sy'n bosibl ar lein yn ddiweddar. Does gen i ddim lein y tu allan, felly maen nhw'n cael eu sychu'r tu mewn. Mae'r bil trydan yn llai o lawer bellach.

4 comments:

Linda said...

Ah y jîns sydd yn cymeryd gymaint o amser i sychu yn y peiriant! Syniad da . Mi fydda inna yn gwneud yr un peth efo sweaters rhag ofn iddynt gael eu handwyo .

neil wyn said...

Dyni'n ceisio defnyddio'r sychwr cyn lleiad â phosib y dyddiau 'ma, ac mae'r ystafell wydr yn neud y tro fel stafell sychu ardderchog, yn enwedig yn ystod yr haf. Roedd fy nhad yn nghyffraith yn arfer defnyddio ei dŷ gwydr er mwyn sychu ei ddillad chwarae teg iddo!

Unknown said...

Tusw o flodau lliwgar i Emma a Linda am iddynt leihau eu hargraff carbon ar yr amgylchedd!

Emma Reese said...

Y broblem ydy bod dillad yn hongian yn y tŷ trwy'r amser gan ein bod ni heb dŷ gwydr neu lein yn yr ardd.