Siân James ydy un o fy hoff gantorion. Er fy mod i'n hoff iawn o "yr Eneth Glaf" gynni hi, roedd hi'n hynod o anodd deall ystyr rhai geiriau pan brynes i ei CD flynyddoedd yn ôl heb fod yn gyfarwydd â Chymraeg ffurfiol ar y pryd. Wrth i mi wrando ar y CD unwaith yn rhagor heddiw, roeddwn i'n cofio i mi gael cymaint o drafferth dyfalu beth yn union ydy "gwelier" ar y llinell "y gwelir heddiw flodau'r haf." Rhywbeth i wneud â "gweld" neu "gwely" neu beth?
Dw i'n dal heb wybod beth ydy "it" ar "haws it wenu ar ei hôl." Fasai rhywun medru taflu golau arna i?
3 comments:
Bore da !Beth am 'haws i ti [ it] wenu ar ei hôl' Mae 'na enghreifftiau eraill dwi'n siwr mewn caneuon gwerin yn arbennig, ond yn methu meddwl ar hyn o bryd.....
O bryd i'w gilydd wna i glywed cân dwi heb ei chlywed ers flynyddoedd, a sylwi fy mod i'n deall llawer mwy o'r geiriau erbyn hyn:) Ro'n i'n arfer meddwl roedd linell sy'n rhan o gân gan 'Big Leaves' yn son am 'Doug o Nefyn', ond 'dy gynefin' yw'r geiriau wrth cwrs...
'Na resymol! Diolch am dy help, Linda.
Doug o Nefyn yn swnio'n gân ddiddorol beth bynnag, Neil. : )
Post a Comment