Gair bach arall mor gyffredin roeddwn i'n ei ynganu'n anghywir ydy "diolch." Roeddwn i'n dweud "dioch" ers blynyddoedd. Yna yn Londis yn Llanberis, dwedodd hogan tu ôl y cownter, "dio l ch" yn araf iawn wrtha i fel y medrwn i glywed y "l" yn iawn. Am sioc!
Mae'n siŵr fy mod i'n ynganu mwy o eiriau'n anghywir heb sylweddoli. Dyma berygl i hunan-ddysgu.
3 comments:
Mae'r pethau bach yn fy mhoeni fi hefyd weithiau. Er enghraifft ro'n i'n poeni am sut i ddweud y lluosog o 'traeth', sef 'traethau'. O'r hyn dwi'n cofio mae'n cael ei ynganu yn fwy fel 'treithau', ond fedra i ddim bod yn sicr. Gofynnais fy mam, a dwedodd 'dyni ddim yn son am fwy nag un traeth ar y pryd fel arfer', felly doedd hi ddim fawr o help!
Does dim rhaid i ti boeni am y gair 'na mwyach felly!
Rheol eithaf da ar y cyfan, am wn i, yw fod [ai] yn troi yn [ei] o dan yr acen mewn gair lluosill. Mae'r sillafu weithiau yn amlygu hyn - e.e.:
[ai] > [ei]
Sais > Saeson, Saesneg
Almaen > Almaeneg
Sbaen > Sbaeneg
maes > meysydd
trais > treisio
craith > creithiau
etc.
felly:
traeth [ai] > traethau [ei](mae 'traethawd' yr un peth)
Post a Comment