Monday, January 4, 2010

yn ddistaw a chynnes

Dechreuodd yr ysgol heddiw. Mae hi mor ddistaw gartref wedi i'r plant fynd. Mae'n oer hefyd, 16F/-9C y bore 'ma ond dim eira.

Dan ni'n cadw'n gynnes er gwaetha'r tymheredd, diolch i'r llosgwr logiau ffyddlon. Ond tra bydd y gŵr a'r mab hynaf i ffwrdd, fi sy'n gwneud y gwaith nôl y logiau o'r garej lawr y grisiau i fyny i'r ystafell fyw. Rhaid cludo rhyw bum gwaith i lenwi'r blwch logiau. O leiaf bydda i'n gynnes fyth ar ôl gorffen y gwaith.

2 comments:

Dyfed said...

Eira eithaf trwm yn Sir Fon! Prin iawn fel arfer - ond mwy ar y ffordd.

Emma Reese said...

Mae'n addo eira yma yfory hefyd.