Monday, January 18, 2010

esgidiau call


Mae eisiau esgidiau newydd ar un o fy merched, a dyma ni'n mynd i Wal-Mart. Cafodd hyd i bâr unigryw, sef esgidiau a gafodd eu gwneud â phlastig wedi'i ailgylchu. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o ffasiwn beth. Maen nhw'n edrych yn ddigon cyffredin. Ac maen nhw'n reit gyfforddus chwedl fy merch. Am ryfeddol!

1 comment:

Sarah Stevenson said...

Diddorol iawn! Dw i ddim yn hoff iawn o Wal-Mart ond mae'n dda eu bod nhw'n gwerthu esgidiau o ddeunyddiau wedi'i ailgylchu.